Ymgynghoriad

Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad ar leihau’r risg o strôc yn ystod gaeaf 2011. Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

 

Ymchwilio i’r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd i leihau’r risg o strôc a holi pa mor effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag unrhyw wendidau yn y gwasanaethau hyn, yn cynnwys:

 

  • craffu ar sut mae Llywodraeth Cymru’n rhoi’r Cynllun Gweithredu Lleihau Risg o Strôc ar waith, gan gynnwys i ba raddau y mae’r camau a gymerwyd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch y risgiau o gael strôc wedi llwyddo;
  • nodi’r ardaloedd lle y mae problemau penodol wrth weithredu camau i leihau’r risg o strôc a phroblemau i’w darparu;
  • ystyried y dystiolaeth o blaid lansio rhaglen sgrinio ffibriliad atriol yng Nghymru.

 

Mae’r ymgynghoriad nawr wedi cau.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565