Ymgynghoriad
Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 9 Rhagfyr 2011 a Dydd Llun, 20 Chwefror 2012
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Ers i ganlyniad y refferendwm ar 3 Mawrth 2011 roi pwerau
eang i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud deddfau i Gymru, mae’r cwestiwn ynghylch
a ddylai Cymru ddod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân wedi dod yn fater o
ddiddordeb a gaiff ei drafod yn gyhoeddus. Yn benodol, mae Prif Weinidog Cymru
wedi nodi ei fod yn bwriadu dechrau trafodaeth gyhoeddus ynghylch a oes angen
awdurdodaeth ar wahân i Gymru.
Barn y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw bod y datblygiadau hyn yn rhoi
cyfle da i archwilio’r agweddau
technegol o’r cwestiwn hwn ac felly wedi
cytuno i gynnal ymchwiliad iddo.
Ceir rhagor o wybodaeth gefndir am y datblygiadau sydd wedi
arwain at farn y Pwyllgor mewn papur a baratowyd gan Wasanaeth Ymchwil y
Cynulliad, ac mae hwn wedi’i gynnwys isod.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Olga Lewis