Ymgynghoriad
Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 30 Ionawr 2012 a Dydd Mercher, 29 Chwefror 2012
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor
Menter a Busnes yn cynnal ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy
borthladdoedd a meysydd awyr Cymru. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw:
- pa mor bwysig yw prif borthladdoedd a meysydd awyr Cymru, o ran
economïau eu rhanbarthau eu hunain a Chymru gyfan?
- pa ffactorau sy’n cyfyngu ar wireddu potensial prif borthladdoedd a
meysydd awyr Cymru; pa gyfleoedd sydd ar gael i ddatblygu’r potensial hwn;
a sut y gellir eu gwireddu?
- pa mor effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru o ran cefnogi’r
gwaith o ddatblygu prif borthladdoedd a meysydd awyr Cymru?
Materion allweddol
Bydd y Pwyllgor yn ystyried y materion a ganlyn fel rhan o’r
ymchwiliad hwn:
- pa ran y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ei chwarae o
ran hwyluso’r gwaith o ddatblygu porthladdoedd a meysydd awyr Cymru?
- pa ffactorau sydd wedi cyfrannu at ddirywiad busnes ym Maes Awyr
Caerdydd?
- pa mor effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru, yn bennaf ym
meysydd trafnidiaeth, datblygu economaidd a pholisi cynllunio defnydd tir,
o ran cefnogi’r gwaith o ddatblygu porthladdoedd a meysydd awyr Cymru?
- sut y gall Llywodraeth Cymru ddatblygu cyfleoedd economaidd, er
enghraifft o dwristiaeth, masnachu mewnol, cludo nwyddau ac, yn achos
porthladdoedd, cyfleoedd sy’n cynnwys y diwydiannau ynni ac ynni
adnewyddadwy? Pa ran y mae porthladdoedd a meysydd awyr, yn arbennig Maes
Awyr Caerdydd, yn ei chwarae yn y prif sectorau a nodwyd gan Lywodraeth
Cymru?
- pa mor effeithiol yw seilwaith a rhyng-gysylltedd o ran cynorthwyo i
ddatblygu porthladdoedd a meysydd awyr Cymru?
- gofio bod polisïau sy’n ymwneud â phorthladdoedd a meysydd awyr yn
faterion a gadwyd yn ôl, pa mor effeithiol y mae Llywodraeth Cymru yn
ymgysylltu â Llywodraeth y DU er budd Cymru?
- pa effaith a gaiff rheoliadau cymorth gwladwriaethol yr UE ar allu
Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth, a pha gyfleoedd y mae polisi
porthladdoedd a meysydd awyr yr UE yn eu rhoi i gefnogi’r gwaith datblygu
yng Nghymru?
Dogfennau ategol
- Inquiry into international connectivity through Welsh ports and airports PDF 45 KB Gweld fel HTML (1) 13 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Siân Phipps - Committees
Y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA