Penderfyniadau
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gofal
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
27/11/2013 - Supplementary Legislative Consent Motion on The Care Bill
Dechreuodd yr eitem am
17.48
NDM5331 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig
NNDM5247, y darpariaethau pellach
hynny yn y Bil Gofal sy’n
ymwneud â threfniadau cyfatebol y DU ar gyfer lleoliadau trawsffiniol oedolion ac ôl-ofal iechyd meddwl ar gyfer
pobl, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
27/11/2013 - Legislative Consent Motion on The Care Bill
Dechreuodd yr eitem am
17.48
Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem
a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân.
NDM5247 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gofal, sy’n ymwneud
â threfniadau cyfatebol y
DU ar gyfer lleoli oedolion ar draws ffiniau, trefniadau i sicrhau
parhad yn y gofal i oedolion
yn achos methiant gan y darparwr ac i’w gwneud yn ofynnol
i Weinidogion Cymru gydweithredu â’r Awdurdod Ymchwil
Iechyd, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.