Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Prif Swyddog Meddygol
Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Prif Swyddog Meddygol
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi craffu yn gyfnodol ar waith
Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Mae Prif
Swyddog Meddygol Cymru yn gyfrifol am:
- arwain
rhaglenni a pholisïau iechyd cyhoeddus, gan weithio ar draws holl adrannau
polisi Llywodraeth Cymru a chydag amrywiaeth fawr o bartneriaid allanol,
gyda’r nod o wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd;
- gwella
ansawdd gofal iechyd a’r canlyniadau i gleifion;
- arwain y
proffesiwn meddygol yng Nghymru, gyda rolau allweddol mewn rheoleiddio,
addysg a hyfforddiant, safonau a pherfformiad meddygol
- cynnal y
cysylltiadau priodol yn y DU ac yn rhyngwladol, gan weithio gyda
sefydliadau, adrannau llywodraeth a Phrif Swyddogion Meddygol eraill y DU.
Mae rhagor
o wybodaeth am waith y Prif Swyddog Meddygol ar gael ar ei gwefan.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/10/2014
Dogfennau