Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Arloesi Meddygol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Arloesi Meddygol
Mae'r Bil
Arloesi Meddygol yn Bil Aelod preifat a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Saatchi.
Y diben a nodwyd ar ei gyfer yw i annog arloesi cyfrifol o ran triniaeth
feddygol. Bydd y darpariaethau yn y Bil yn berthnasol i Gymru.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Arloesi Meddygol (PDF, 187KB) ar 10
Rhagfyr 2014. Bu’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yn cynnal ymgynghoriad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol rhwng 16
Rhagfyr 2014 a 9 Ionawr 2015.
Cyfeiriwyd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
gan y Pwyllgor Busnes ar 13 Ionawr 2015, gyda 29 Ionawr 2015 yn ddyddiad terfyn
ar gyfer cyflwyno adroddiad yn ei gylch.
Tystiolaeth
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad i gasglu tystiolaeth am y testun hwn
Adroddiad y Pwyllgor
Cyflwynodd y Pwyllgor ei adroddiad
(PDF, 494KB) yn Ionawr 2015.
Cafodd y Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 3
Chwefror 2015.
Cyhoeddodd
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ddatganiad
Ysgrifenedig ar 31 Mawrth 2015 ar ymateb Llywodraeth y DU i’r
bleidlais ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/12/2014
Dogfennau
Ymgynghoriadau
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Arloesi Meddygol (Wedi ei gyflawni)