Agenda Ddiwygio Llywodraeth y DU ar yr Undeb Ewropeaidd
Agenda Ddiwygio Llywodraeth y DU ar yr Undeb Ewropeaidd
Ym mis Gorffennaf 2015, cytunodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol i wneud gwaith i archwilio agenda Ddiwygio Llywodraeth y DU
ar yr Undeb Ewropeaidd. Dyma'r cylch gorchwyl:
- Deall manylion agenda ddiwygio
Llywodraeth y DU ar yr UE, gan gynnwys yr effaith bosibl ar gymwyseddau
datganoledig yng Nghymru.
- Deall y broses y mae Llywodraeth y DU
yn ymgymryd â hi o ran ei thrafodaethau ar ddiwygio yr UE a sut y mae, a
sut y bydd, yn cynnwys y Gweinyddiaethau a Deddfwrfeydd Datganoledig yn
hyn.
- Deall yn well farn Sefydliadau'r UE
ac Aelod-wladwriaethau eraill am agenda ddiwygio Llywodraeth y DU ar yr
UE.
Cam cyntaf y gwaith hwn i'r Pwyllgor
oedd ymweliad â Brwsel ym mis Hydref 2015. Yn ystod yr ymweliad hwn cyfarfu'r Pwyllgor ag
ystod o swyddogion a gwleidyddion; gan gynnwys swyddogion o'r Comisiwn
Ewropeaidd a Chyngor Ewrop ac Aelodau Seneddol Ewropeaidd o Gymru, Iwerddon a'r
DU.
Yn dilyn hyn, rhoddodd aelodau'r
Pwyllgor dystiolaeth i Bwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar yr Undeb
Ewropeaidd. Gellir gweld y sesiwn hon
ar: http://parliamentlive.tv/event/index/5f7645e8-26de-4302-9af8-8d8ece7aaff3?in=15:01:15&out=15:55:00
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/01/2016
Dogfennau
- Ymateb gan Gweinidog Ewrop, Y Gwir Anrhydeddus David Lidington AS, 24 March 2016 ( Saesneg yn unig) PDF 121 KB
- Llythyr at y Llywydd, 15 Mawrth 2016 PDF 147 KB
- Llythyr at y Gwir Anrhydeddus David Lidington AS, 10 Mawrth 2016 (Saesneg yn unig) PDF 230 KB Gweld fel HTML (3) 19 KB
- Llythyr wrth y Gwir Anrhydeddus David Lidington AS, 26 Ionawr 2016 (Saesneg yn unig) PDF 119 KB