Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc
Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc
Ymchwiliad
gwreiddiol y Pwyllgor
Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ymchwiliad ar leihau’r risg o strôc yn
ystod gaeaf 2011. Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:
Ymchwilio i’r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd i
leihau’r risg o strôc a holi pa mor effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru i
fynd i’r afael ag unrhyw wendidau yn y gwasanaethau hyn, yn cynnwys:
- craffu ar
sut mae Llywodraeth Cymru’n rhoi’r Cynllun Gweithredu Lleihau Risg o Strôc
ar waith, gan gynnwys i ba raddau y mae’r camau a gymerwyd i godi
ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch y risgiau o gael strôc wedi llwyddo;
- nodi’r
ardaloedd lle y mae problemau penodol wrth weithredu camau i leihau’r risg
o strôc a phroblemau i’w darparu;
- ystyried y
dystiolaeth o blaid lansio rhaglen sgrinio ffibriliad atriol yng Nghymru.
Tystiolaeth
gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu
tystiolaeth am y testun yma.
Tystiolaeth
gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Derbyniodd y Pwyllgor tystiolaeth
gan y cyn Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PDF,
309KB).
Adroddiad y Pwyllgor
Cyflwynodd
y Pwyllgor adroddiad (PDF, 579KB) ym mis Rhagfyr 2011. Mae crynodeb
o’r adroddiad (PDF, 139KB) ar gael hefyd.
Ymatebodd
Llywodraeth Cymru (PDF, 128KB) yn Chwefror 2012.
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y
Pwyllgor ar 8 Chwefror 2012.
Gwaith
dilynol y Pwyllgor
Yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol, nododd y Pwyllgor ei fwriad i ddychwelyd
at y pwnc o fewn dwy flynedd i wneud gwaith dilynol ynghylch ganfyddiadau a’i
argymhellion cyntaf. Ym mis Gorffennaf 2013, cytunodd y Pwyllgor i ystyried
effeithiolrwydd Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â’r gwendidau mewn
gwasanaethau a nodwyd gan y Pwyllgor yn ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2011, gan
ganolbwyntio’n benodol ar weithredu argymhellion y Pwyllgor.
Tystiolaeth
gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu
tystiolaeth am y testun yma.
Tystiolaeth
gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Derbyniodd y Pwyllgor tystiolaeth
gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PDF, 277KB).
Llythyr
y Pwyllgor
Ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 232KB)
ym mis Ionawr 2014. Ymatebodd
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 108KB) ym mis Chwefror
2014.
Ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 167KB)
eto ym mis Ebrill 2014. Ymatebodd
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 145KB) ym mis Mai
2014.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/08/2011
Y Broses Ymgynghori
Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar 16 Medi 2011.
Dogfennau
- Ymchwiliad gwreiddiol
- Adroddiad ar Leihau’r Risg o Strôc - Rhagfyr 2011 PDF 579 KB
- Adroddiad ar Leihau’r Risg o Strôc - Prif gasgliadau ac argymhellion - Rhagfyr 2011 PDF 139 KB
- Adroddiad ar Leihau'r Risg o Strôc - Ymateb Llywodraeth Cymru - Chwefror 2012 PDF 128 KB
- Ymchwiliad dilynol
- Llythyr y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Lywodraeth Cymru yn crynhoi’r materion allweddol o ran ei ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc - 9 Ionawr 2014 PDF 314 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i lythyr y Pwyllgor yn crynhoi'r materion allweddol - 20 Chwefror 2014 PDF 108 KB
- Llythyr y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn am wybodaeth ychwanegol ar ei ymchwiliad dilynol i leihau'r risg o strôc - 8 Ebrill 2014 PDF 167 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i lythyr y Pwyllgor yn gofyn am wybodaeth ychwanegol - 2 Mai 2014 PDF 145 KB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc (Wedi ei gyflawni)
- Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc: ymchwiliad dilynol (Wedi ei gyflawni)