Ymchwiliad byr i ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd yng Nghymru
Ymchwiliad byr i ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd yng Nghymru
Cynhaliodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig y Senedd (“y Pwyllgor”) ymchwiliad byr i ymateb
Llywodraeth Cymru i’r llifogydd a ddigwyddodd ym mis Chwefror 2020 yng Nghymru.
Bu’r Pwyllgor yn ystyried:
-
a yw'r lefel bresennol o gyllid a ddarperir gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol (FCERM),
ac i awdurdodau perthnasol ddarparu ymateb brys i lifogydd, yn ddigonol?
-
a fydd angen mwy o gyllid brys i gynorthwyo awdurdodau
lleol i ymdrin â llifogydd y gaeaf hwn?
-
a yw awdurdodau lleol yn cael digon o gymorth i adfer ar
ôl llifogydd mawr, cynnal unrhyw ymchwiliadau angenrheidiol a gwneud newidiadau
sydd eu hangen i reoli'r risg pe bai llifogydd yn digwydd eto?
-
pa mor effeithiol yw Pwyllgor Llifogydd ac Erydu
Arfordirol Cymru o ran darparu rôl gynghori a chydlynu i Lywodraeth Cymru?
Cafodd y Pwyllgor
dystiolaeth ysgrifenedig gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac awdurdodau lleol
ac mae'r rhain wedi'u cyhoeddi.
Ar 8
Hydref 2020, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda Gweinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynglŷn ag ymateb Llywodraeth Cymru i’r
llifogydd.
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei
adroddiad: Llifogydd
yng Nghymru (PDF 171KB) ar 9 Hydref 2020 ac ymatebodd
(PDF 450KB) Llywodraeth Cymru ar 27 Ionawr 2021.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/10/2020
Dogfennau
- Ymateb Llywodraeth Cymru at Adroddiad y Pwyllgor: Llifogydd yng Nghymru - 27 Ionawr 2021 PDF 450 KB
- Adroddiad y Pwyllgor: Llifogydd yng Nghymru - 9 Rhagfyr 2020
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 8 Rhagfyr 2020 PDF 181 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Dr Chris Llewelyn, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) - 23 Hydref 2020 PDF 144 KB
- Nodyn briffio gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch Arglawdd Tan Lan - Rhagfyr 2020 PDF 105 KB
- Nodyn briffio gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch Llyn Anafon (Saesneg yn unig) - Hydref 2020
Papurau cefndir
- FL 01 Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (Saesneg yn unig) PDF 84 KB
- FL 02 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Saesneg yn unig) PDF 133 KB
- FL 03 Cyngor Sir Fynwy (Saesneg yn unig) PDF 145 KB
- FL 04 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 295 KB
- FL 05 Cyfoeth Naturiol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 200 KB