Ymchwiliad i bolisi ar amddiffyn plant rhag yr haul mewn ysgolion
Ymchwiliad i bolisi ar amddiffyn plant rhag yr haul mewn ysgolion
Ar 4 Hydref 2011,
cafodd Pwyllgor Deisebau’r
Cynulliad Cenedlaethol ddeiseb
gan elusen ganser Tenovus a oedd yn dweud:
“Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu eli haul am
ddim i bob plentyn o dan 11 oed yng Nghymru.”
Cyfeiriwyd y
ddeiseb i’r Pwyllgor Plant a
Phobl Ifanc i’w hystyried. O ganlyniad, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu
cynnal ymchwiliad byr i bolisi ar amddiffyn plant rhag yr haul mewn ysgolion, a
roedd yn ystyried nid yn unig a yw eli haul ar gael a’r defnydd ohono, ond
hefyd faterion eraill yn ymwneud ag amddiffyn plant rhag yr haul, fel darparu
cysgod mewn ysgolion a gwisgo dillad addas y tu allan.
Er mwyn
cynorthwyo’r ymchwiliad, roedd y Pwyllgor yn croesawu sylwadau ysgrifenedig am
amddiffyn plant a phobl ifanc rhag yr haul, yn yr ysgol neu mewn gofal, ac yn
enwedig ynghylch yr hyn a ganlyn:
- a yw’r polisïau a’r canllawiau presennol ar gyfer
ysgolion ar amddiffyn plant rhag yr haul yn effeithiol o ran eu hamddiffyn
rhag yr haul, ac, os nad ydynt, lle y mae angen gwella;
- a oes digon o ymwybyddiaeth o’r polisïau a’r canllawiau
presennol ar amddiffyn pobl rhag yr haul, ac, os nad oes, beth yw’r ffordd
orau i godi ymwybyddiaeth;
- a oes ffactorau sy’n rhwystro plant a phobl ifanc
rhag defnyddio dulliau o amddiffyn eu hunain rhag yr haul mewn ysgolion,
gan gynnwys eli haul, dillad addas, hetiau neu gysgod, er enghraifft o ran
cost neu athrawon neu warchodwyr plant yn rhoi’r eli haul arnynt, ac, os
felly, sut y gellid eu datrys.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/02/2014
Dogfennau
- Ymchwiliad i bolisi ar amddiffyn plant rhag yr haul mewn ysgolion - Adroddiad - Mai 2012 PDF 606 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 217KB) PDF 216 KB
- Llythyr ymgynghori PDF 82 KB Gweld fel HTML (3) 15 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad SSPP01. Lisa - Member of the public (Saesneg yn Unig) PDF 89 KB Gweld fel HTML (4) 3 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad SSPP02. Michael Ball (Saesneg yn Unig) PDF 106 KB Gweld fel HTML (5) 4 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad SSPP03. Dermatology Council for Wales (Saesneg yn Unig) PDF 87 KB Gweld fel HTML (6) 9 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad SSPP04. Iechyd Cyhoeddus Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 220 KB Gweld fel HTML (7) 31 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad SSPP05. NASUWT (Saesneg yn Unig) PDF 236 KB Gweld fel HTML (8) 29 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad SSPP06. Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) PDF 486 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad SSPP07. The National Childminding Association Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 157 KB Gweld fel HTML (10) 19 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad SSPP08. Royal College of Physicans (Saesneg yn Unig) PDF 235 KB Gweld fel HTML (11) 10 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad SSPP09. Tenovus (Saesneg yn Unig) PDF 764 KB Gweld fel HTML (12) 21 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad SSPP10. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 160 KB Gweld fel HTML (13) 23 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad SSPP11. Association of School and College Leaders (ASCL) and NAHT (Saesneg yn Unig) PDF 352 KB Gweld fel HTML (14) 33 KB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i bolisi ar amddiffyn plant rhag yr haul mewn ysgolion (Wedi ei gyflawni)