Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 166KB) Gweld
fel HTML (132KB) |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-04-656 Sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Hi yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol a Heddwch. Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei
wneud i goffáu 15 Mai ac a fyddai'n ystyried gwneud mwy i nodi'r diwrnod. ·
Ysgrifennu at y Llywydd, sy'n Gadeirydd Comisiwn y Cynulliad, i ofyn a oes
gan y Cynulliad unrhyw ddigwyddiadau sy'n coffáu 15 Mai ac a fyddai'n bosibl
ystyried gwneud rhagor i nodi'r diwrnod. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-652 Android ac iOS, Cymraeg yn yr 21ain Ganrif Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried bod y
deisebydd wedi nodi ei fod ar y cyfan yn fodlon ag ymateb y Prif Weinidog, fe
gytunodd i gau'r ddeiseb. |
|
P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Fe roddodd gyngor gweithdrefnol i gydweithwyr y deisebydd yn ystod ymweliad
â Chanolfan Dyfi. Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo ba gamau fyddai Llywodraeth
Cymru yn eu cymryd os byddai niferoedd Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las yn
cwympo'n is na'r lefel y dylai arwain at gamau o dan y Cytundeb Adar Dŵr
Affrica-Ewrop, y cyfeiriwyd ato gan y deisebwyr. |
|
P-04-619 Lleoliaeth o ran Cynllunio ac Iawndal ar gyfer Trydydd Partïon parthed Prosiectau Seilwaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb,
o ystyried fod y mater wedi cael ystyriaeth benodol yn ystod trafodaethau'r
Cynulliad ynghylch Bil Cynllunio (Cymru). Felly, nid oes llawer mwy y gall y
Pwyllgor wneud i ddatblygu'r mater. |
|
P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at y Gweinidog, yn gofyn iddo: ·
nodi diddordeb y Pwyllgor yn y mater hwn; ·
roi rhagor o fanylion am yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer adrodd i'r
Cynulliad; ac ·
ysgrifennu at y Pwyllgor eto gyda mwy o wybodaeth pan fydd yn adrodd i'r
Cynulliad. |
|
P-04-556 Na i gau Cyffordd 41 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau interim y deisebydd; ac ·
yn ôl y gofyn, caniatáu mwy o amser i'r deisebydd ymgynghori ag aelodau o'r
Grŵp Gweithredu ac ystyried unrhyw sylwadau atodol yn nes ymlaen. |
|
P-04-578 Gwaith Gostegu Sŵn ar yr M4, i’r Gorllewin o Gyffordd 32 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb, ac wrth wneud hynny i gynghori'r deisebydd y dylai godi'r materion
eraill yn ei llythyr diweddaraf gyda'r awdurdod lleol. |
|
P-04-633 Codi Ymwybyddiaeth o'r Band Eang Gwael yn Ein Hardal Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ganiatáu rhagor o amser i'r deisebwyr roi sylwadau ar
ohebiaeth y Dirprwy Weinidog. |
|
P-04-397 Cyflog Byw Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys. Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at y Gweinidog yn gofyn am ei farn ar sylwadau diweddaraf y deisebwyr ac am
ddiweddariad pellach ar y cynnydd, gan gynnwys trafodaethau diweddaraf Cyngor
Partneriaeth y Gweithlu. Ar ôl trafod y deisebau newydd a chyfredol, cytunodd y Pwyllgor i gael
egwyl rhwng 10.07 a 10.25, cyn y sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Addysg a
Sgiliau. |
|
P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol Dogfennau ategol: |
|
P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn Dogfennau ategol: Cofnodion: Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor. |