Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
||
(9:00 - 9:20) |
Deisebau newydd |
|
P-04-504 Diogelwch Cyffordd Pont Maerdy yr A483 Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: ·
Gweinidog
yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; a ·
Chyngor Sir
Powys yn holi eu
barn am y ddeiseb. |
||
P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb. |
||
P-04-506 Pasys bws am ddim / teithio rhatach i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau, i fyfyrwyr a phobl o dan 18 oed Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol: ·
Gweinidog
yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; a'r ·
Consortia
trafnidiaeth yn holi eu
barn am y ddeiseb. |
||
P-04-507 Bil iawnderau yng Nghymru ar gyfer menywod a merched: ymlynu wrth y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod (CEDAW) Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog sy'n
gyfrifol am gydraddoldeb i ofyn am ei farn ar y ddeiseb. |
||
P-04-508 Rhaid adfer yr Olygfa o Landyfi Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn ar y ddeiseb. |
||
P-04-509 Achub Canolfan Tenis Genedlaethol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol: ·
y Gweinidog
Diwylliant a Chwaraeon, yn gofyn am ei farn am y ddeiseb ac i ofyn iddo
egluro'r sefyllfa bresennol ynghylch dynodi'r cyfleuster yn Ganolfan Tenis
Genedlaethol Cymru; ·
Virgin
Active, yn ceisio eglurhad ynghylch a oes ganddynt unrhyw gontractau gyda'r
Cyngor neu Lywodraeth Cymru; ·
Canolfan
Tenis Abertawe, yn gofyn am wybodaeth am eu profiad diweddar o ran materion
ariannu; |
||
(9:20 - 10:00) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-03-263 Rhestru Parc y Strade Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog
Diwylliant a Chwaraeon, yn gofyn am eglurhad ynghylch yr amserlen ar gyfer y Bil
Treftadaeth arfaethedig ac a fydd yn cynnwys cynigion mewn perthynas â rhestru
lleol; ·
Cadw, yn
gofyn am ragor o wybodaeth am y trafodaethau sydd wedi'u cynnal gyda'r
datblygwr a'r rhesymau pam na ellir rhestru canolfannau chwaraeon; a ·
yr awdurdod
lleol, mewn perthynas â rhestru lleol. |
||
P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i
ddiolch iddi am ei hymateb, i ofyn am gael gwybod am ddatblygiadau, ac i ofyn
iddi ystyried sefydlu cydweithgor gyda'r adran drafnidiaeth yn Lloegr. |
||
P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgîl
datganiad diweddar y Gweinidog. |
||
P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth
ddiweddaraf gan y Gweinidog. |
||
P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog, yn gofyn iddi ystyried sylwadau pellach y deisebydd. |
||
P-04-491 Banc Cenedlaethol ac arian cyflenwol i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
gau'r
ddeiseb, gan fod Gweinidogion wedi diystyru cynlluniau i sefydlu Banc
Cenedlaethol i Gymru ar hyn o bryd, ac oherwydd bod adolygiad parhaus o
fynediad at gyllid yn cael ei gynnal ar hyn o bryd; a ·
anfon
pwyntiau pellach y deisebydd ymlaen at Weinidogion ac at yr Athro Jones-Evans. |
||
P-04-402 Gweddïau Cyngor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y
Cadeirydd a Russell George eu bod yn aelodau o Gyngor Sir Powys. Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad pellach ynghylch yr angen am ddeddfwriaeth;
·
Geisio
cyngor cyfreithiol pellach os oes angen; a
·
ysgrifennu
at y deisebydd yn gofyn am eu sylwadau ar ddatganiad y Gweinidog. |
||
P-04-413 Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghwm Cynon Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan na
chafwyd ymateb gan y deisebydd. |
||
P-04-450 Mae Angen Ysbyty Cwbl Weithredol ar y Barri a Bro Morgannwg Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau pellach y
deisebydd ymlaen at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. |
||
P-04-428: Ynni amgen ar gyfer goleuadau stryd Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan na
chafwyd ymateb gan y deisebydd. |
||
P-04-484 Allowance amount Addysg i Bawb! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i
ofyn am ymateb i lythyr y Gweinidog. |
||
P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i gymryd tystiolaeth lafar am y
ddeiseb gan: ·
y
deisebydd; a ·
ColegauCymru.
Hefyd,
cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'r Gwasanaeth Ymchwil am grynodeb o'r ymatebion i'r
ymgynghoriad ar y ddeiseb, a allai hefyd gynnwys unrhyw ymchwil a wnaed gan yr
UCU.
|
||
P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog
ar sylwadau pellach y deisebydd. |
||
P-04-489 Deddf genedlaethol i Gymru ar dai fforddiadwy ac â blaenoriaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog
ar sylwadau pellach y deisebydd. |
||
(10:00 - 10.30) |
P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc: Sesiwn Dystiolaeth gyda'r Deisebydd Helen Missen, Deisebydd
Susannah Humphrey, Rheolwr Prosiect B-eat Cymru Dr Robin Glaze, Clinigydd Arweiniol ar gyfer gwasanaethau phobl ifanc yng Ngogledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd Helen
Missen, Susannah Humphrey a Dr Robin Glaze gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. |
|
(10:30 - 11:00) |
P-04-408: Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc: Sesiwn Dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jo Jordan, Cyfarwyddwr Partneriaethau a Gwasanaethau Corfforaethol Dr Sarah Watkins, Pennaeth Iechyd Meddwl, Troseddwyr a Grwpiau sy’n Agored i Niwed Cofnodion: Atebodd
Mark Drakeford AC gwestiynau'r pwyllgor, gyda chefnogaeth Jo Jordan a Dr Sarah
Watkins. |