Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Gogledd Cymru - Ysgol Uwchradd Prestatyn
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson. |
||
(9.45 - 9.55) |
Deisebau newydd |
|
P-04-510 Ymchwiliad Cyhoeddus i achos Breckman yn Sir Gaerfyrddin Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog
Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth gan ofyn am ei barn; ·
yr
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i holi a yw'n fodlon â'r camau a gymerwyd gan
yr awdurdod lleol; a'r ·
yr awdurdod
lleol gan ofyn am ei farn am y ddeiseb. |
||
P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn am y ddeiseb. |
||
P-04-512 Rhoi terfyn ar y "Cynigion i gwtogi staff" ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
|
||
P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; ·
ysgrifennu
at Arriva a'r consortia trafnidiaeth rhanbarthol, gan ofyn am eu barn am y
ddeiseb; ac i ·
ofyn am
bapur ymchwil sy'n clymu'r materion amrywiol ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus ac
integredig ynghyd. |
||
(9.55 - 10.15) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty Dogfennau ategol: |
||
P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip Dogfennau ategol: |
||
P-04-430 Y bwriad i gau Uned Mân Anafiadau Dinbych-y-pysgod Dogfennau ategol: |
||
P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd Dogfennau ategol: |
||
P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at y Gweinidog yn holi am ragor o fanylion am bwrpas y panel craffu
arbenigol; ·
tynnu
sylw'r Gweinidog at yr ohebiaeth bellach gan y deisebwyr a gofyn i’r panel ei
hystyried; ·
aros am
benderfyniad y Gweinidog yn sgîl y cyngor mae'n ei gael gan y panel; a ·
cheisio
ymateb gan fwrdd iechyd Hywel Dda, gan roi copi o'r cais i'r Gweinidog a mynegi
pryder am yr amser a gymerwyd i ymateb i ohebiaeth y Pwyllgor. |
||
P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn i'r
deisebwyr a ydynt yn fodlon ag ymateb y
Gweinidog; ·
ysgrifennu
at y Gweinidog yn gofyn iddo adolygu'r sefyllfa ar ôl 12 mis ac am ddadl
Cyfarfod Llawn ar y mater yn sgîl unrhyw adolygiad; a ·
gofyn i'r
Gwasanaeth Ymchwil lunio papur ynghylch y sefyllfa unwaith y bydd y Gweinidog
wedi cynnal adolygiad, gyda’r bwriad o lunio adroddiad Pwyllgor byr efallai i
helpu i lywio unrhyw ddadl yn y Cyfarfod Llawn. |
||
P-04-460 Moddion nid Maes Awyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
wahodd
Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i roi tystiolaeth lafar am y
pryderon a godwyd gan y deisebwr, ac i fynegi pryder ynghylch diffyg ymateb; ac ·
ysgrifennu
at y Gweinidog yn holi am amserlen yr adolygiad o afiechydon prin ac a fydd
hynny'n effeithio ar y materion y mae'r ddeiseb yn ymdrin â nhw. |
||
P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
aros am y
wybodaeth ddiweddaraf gan y Dirprwy Weinidog am roi cynllun gweithredu Hywel
Dda i fynd i'r afael a'r rhestr aros yn Sir Benfro ar waith; a ·
dychwelyd
i'r ddeiseb unwaith y daw'r wybodaeth honno gan y Dirprwy Weinidog i law, tua
mis Chwefror flwyddyn nesaf. |
||
P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at y grŵp trawsbleidiol er mwyn rhoi gwybod iddo am yr ohebiaeth
ddiweddaraf; a ·
gofyn i'r
deisebwr a yw'n fodlon â'r ohebiaeth a gafodd, a ·
gan
ddibynnu ar ymateb y deisebwr, efallai bydd y Pwyllgor yn comisiynu darn byr o
waith ar y ddeiseb.
|
||
P-04-488 Yr hawl i benderfynu: diwedd ar astudiaeth orfodol o’r Gymraeg hyd at lefel TGAU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y
ffaith y caiff sylwadau'r deisebwr eu hystyried fel rhan o'r adolygiad o
ddarpariaeth Cymraeg ail iaith yng nghyfnodau allweddol 3 a 4. |
||
P-04-498 Addysgu Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebwr am
ohebiaeth y Gweinidog. |
||
P-04-499 Rhoi Hwb i Gwricwlwm yr Iaith Gymraeg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebwr am
ohebiaeth y Gweinidog. |
||
P-04-335 Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru: Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
|
||
P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
aros i'r
Gweinidog ddod gerbron y Pwyllgor ym mis Chwefror; ·
ysgrifennu
at y Gweinidog i gael eglurhad ynghylch y mathau o gwestiynau na fydd yn gallu
ymdrin â nhw tan fod penderfyniad ynghylch cais Varteg Hill; ac ·
ystyried gwahodd
rhanddeiliaid i roi tystiolaeth yn y flwyddyn newydd. Yn ogystal,
gyda thristwch, fe nododd y Pwyllgor farwolaeth gwraig y prif ddeisebwr a
chytuno y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Dr Cox i fynegi cydymdeimlad yr
Aelodau. |
||
(10.15 - 11.00) |
P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru. Mike
Parry, Prif ddeisebydd Cynghorydd Anwen Davies, Cyngor
Gwynedd Dr Delyth Davies (Rtd) Dogfennau ategol: |
|
(10.15 - 11.00) |
P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn Brian Mintoft, Prif ddeisebydd Diane Tucker, Deisebydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Atebodd y
canlynol gwestiynau'r pwyllgor: Mike Parry, Dr Delyth Davies, Brian Mintoft a
Jennie Windsor. |
|
11.02 - 11.30 |
P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin - Ynys Môn Mr
Tom Pollock, Prif ddeisebydd Dr
Karen Pollock, Deisebydd Cynghorydd Lewis Davies, Deisebydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Atebodd y
canlynol gwestiynau'r pwyllgor: Tom Pollock, Dr Karen Pollock a Lewis Davies. |
|
(11.30 - 11.45) |
P-04-496 Ysgolion Pob Oed Dawn Docx, Prif ddeisebydd Anna Gresty, St Brigid’s
Action Group Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd
Dawn Docx ac Anna Gresty gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. |
|
(11.45 - 12.00) |
P-04-432 - Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
yr Aelodau'r dystiolaeth a gasglwyd drwy siarad â grŵp o ddisgyblion yn
anffurfiol. Cyfrannodd y canlynol at y drafodaeth: Alex Barons (un o'r staff),
Daisy Major, Holly Hinson a Sebastian Collings (disgyblion Ysgol Uwchradd
Prestatyn). Diolchodd y
Pwyllgor i'r disgyblion a'r staff y bu iddynt gwrdd â nhw yn Ysgol Uwchradd
Prestatyn ac i'r ysgol am ei chroeso cynnes a'i chymorth. |