Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ymddiheurodd y Cadeirydd i’r Aelodau a’r tystion am yr
oedi cyn dechrau’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar Nododd y Cadeirydd fod Gwyn Price wedi ymddiheuro ar gyfer rhan gyntaf sesiwn y bore. |
||
(09:00 - 09:35) |
Lleihau’r risg o stôc - ymchwiliad dilynol: Panel 1 - Y sector gwirfoddol Jo Jerrome,
y Gymdeithas Ffibriliad Atrïaidd Ana
Palazon, Cyfarwyddwr Cymru, y Gymdeithas Strôc Paul
Underwood, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru, y Gymdeithas Strôc Lowri
Griffiths, y Gymdeithas Strôc Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Oherwydd materion technegol, cafodd eitemau 2 a 3 eu
trafod gyda’i gilydd. 2.2 Bu cynrychiolwyr o’r Gymdeithas Strôc a Chynghrair Strôc
Cymru yn ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor. 2.3 Nododd Lowri Griffiths o’r Gymdeithas Strôc fod yr Athro Marcus Longley o Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cytuno i weithio gyda’r Gymdeithas i ddatblygu asesiad economaidd o wasanaethau strôc yng Nghymru. Hefyd, nododd Ms Griffiths fod Canolfan Ymchwil Clinigol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd wedi nodi bod cyllid ar gael ei wneud yr asesiad. Cytunodd Ms Griffiths i gyflwyno’r gwaith hwn i’r Pwyllgor ar ôl iddo gael ei gwblhau. |
|
(09:35 - 10:10) |
Lleihau’r risg o stôc - ymchwiliad dilynol: Panel 2 - Cynghrair Strôc Cymru Dr Anne Freeman,
yr Arweinydd Clinigol ym maes Strôc yng Nghymru, yr Uned Gyflawni Genedlaethol Dr Hamsaraj
Shetty, Meddyg Ymgynghorol ym maes Strôc, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r
Fro
Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Oherwydd materion technegol, cafodd eitemau 2 a 3 eu
trafod gyda’i gilydd. 3.2 Bu cynrychiolwyr o’r Gymdeithas Strôc a Chynghrair Strôc Cymru yn ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor. |
|
(10:20 - 11:00) |
Lleihau’r risg o stôc - ymchwiliad dilynol: Panel 3 - Byrddau Iechyd Lleol / Iechyd Cyhoeddus Cymru Mrs Jan
Smith, Cyfarwyddwr Gweithredol ac Arweinydd Gweithredol ym maes Strôc, Bwrdd
Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Dr Yaqoob
Bhat, Meddyg Strôc, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Dr Hugo van
Woerden, Cyfarwyddwr Arloesi a Datblygu, Iechyd Cyhoeddus Cymru Amanda
Smith, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddorau Iechyd, Ansawdd a Diogelwch, Bwrdd
Iechyd Addysgu Powys. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Bu cynrychiolwyr o fyrddau iechyd lleol a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ateb cwestiynau
gan aelodau’r pwyllgor. 4.2 Nododd Dr van Woerden fod darn o waith penodol yn
mynd rhagddo ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ynghylch adsefydlu dioddefwyr dementia fasgwlaidd,
ac y byddai manylion y gwaith hwn yn
cael eu hanfon
at y Pwyllgor. 4.3 Cytunodd Jan Smith, o Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, i ddarparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am y gost i Rwydweithiau’r Galon a’r Rhwydweithiau Canser o gyflogi rheolwyr sy’n goruchwylio’r ffordd y caiff pob rhwydwaith ei redeg. |
|
(11:00 - 11:30) |
Lleihau’r risg o stôc - ymchwiliad dilynol: Panel 4 - Cyrff proffesiynol Nicola
Davis-Job, Cyfarwyddwr Cyswllt Dros Dro (Arfer Proffesiynol), y Coleg Nyrsio
Brenhinol Carole
Saunders, Nyrs Glinigol Arbenigol Strôc, Ysbyty Singleton Dr Amer
Jafar, BMA Cymru Wales ac Arbenigwr Cyswllt ym maes Meddyginiaeth Adsefydlu,
Ysbyty Gwynllyw Dr Phil White,
BMA Cymru Wales, Meddyg Teulu, Gogledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Bu cynrychiolwyr o’r Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain Cymru yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r pwyllgor. |
|
(11:30 - 12:00) |
Lleihau’r risg o stôc - ymchwiliad dilynol: Panel 5 - Llywodraeth Cymru Mark
Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Chris
Jones, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (Gwasanaethau Iechyd) Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Bu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dr Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, yn ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol: y gyllideb ddiogelu iechyd ac imiwneiddio Dogfennau ategol: Cofnodion: 7a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y gyllideb diogelu iechyd ac imiwneiddio. |
||
Llythyr gan Fwrdd Rhaglen Cynllun De Cymru: gwybodaeth ddilynol o’r cyfarfod ar 3 Hydref Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7b.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Fwrdd Rhaglen Cynllun De Cymru. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 9 Cofnodion: 8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
||
(12:00 - 12:30) |
Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Sesiwn friffio yng Nghyfnod 2 Cofnodion: 9.1 Cynhaliwyd sesiwn friffio ar weithdrefnau Cyfnod 2 y pwyllgor. |