Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 214(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/06/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) Bydd y Llywydd yn
galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.26 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Dechreuodd yr eitem am
15.08 Cododd David Rees bwynt o drefn ynghylch Aelod o Blaid
Brexit yn galw ‘celwyddgi’ o’i sedd yn ystod un o atebion y Cwnsler Cyffredinol
i gwestiwn. Diolchodd y Llywydd i’r Aelod am roi cyfle iddi ystyried y defnydd
diweddar o iaith yn y Siambr, gan gynnwys cyhuddiad bod Aelod o Blaid Cymru
wedi defnyddio yr un ymadrodd yn erbyn Aelod o Blaid Brexit yr wythnos
diwethaf. Dywedodd y Llywydd fod gormod o Aelodau yn amharchus tuag at Aelodau
eraill ac nad yw am dreulio ei holl amser yn plismona’r defnydd o iaith gan
Aelodau yn y lle hwn. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd y dylent
ymddwyn yn gwrtais yn eu trafodion, ac na fyddai cyhuddiadau o ‘gelwyddgi’ ac
iaith amharchus yn cael eu goddef o hyn ymlaen. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Prif Weinidog Mick Antoniw (Pontypridd) :A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad mewn
ymateb i'r cyhoeddiad bod nifer o ddinasyddion yng Nghymru yn debygol o golli
eu hawl i gael trwydded deledu am ddim? Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Andrew RT Davies (Canol
De Cymru): Yng ngoleuni adroddiad gan y Pwyllgor
Materion Cymreig, sy'n nodi y dylai toll teithwyr awyr gael ei datganoli'n
llawn i Gymru, a wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar
gyfer diddymu neu ostwng y gyfradd os trosglwyddir y pŵer i Gymru? Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) : A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn
ymateb i'r cyhoeddiad bod Quinn Radiators wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.10 Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a
Thwristiaeth Mick Antoniw (Pontypridd) :A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod nifer
o ddinasyddion yng Nghymru yn debygol o golli eu hawl i gael trwydded deledu am
ddim? Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Andrew RT
Davies (Canol De Cymru): Yng ngoleuni adroddiad gan y Pwyllgor Materion
Cymreig, sy'n nodi y dylai toll teithwyr awyr gael ei datganoli'n llawn i
Gymru, a wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer
diddymu neu ostwng y gyfradd os trosglwyddir y pŵer i Gymru? Gofyn
i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd) : A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r
cyhoeddiad bod Quinn Radiators wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.46 Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am Wythnos
Gofalwyr. Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad am y gwaith sy’n
cael ei wneud i goffáu Daniel James (Gwyrosydd). Gwnaeth Bethan Sayed ddatganiad am Eid/Ramadan. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitemau hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. Yn unol â Rheolau Sefydlog
12.24 a 12.40, cafodd y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau eu grwpio ar
gyfer eu trafod a phleidleisio arnynt. NDM7072 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn
ethol Mark Reckless (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid. NDM7073 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn
ethol Mandy Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol. NDM7074 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn
ethol Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau. NDM7075 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn
ethol: a) David Rowlands (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad; a b) Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau
Ymddygiad.
Oherwydd y cafodd y cynigion eu cefnogi gan ddau draean
o’r Aelodau a oedd yn pleidleisio, derbyniwyd y cynigion. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gweithgarwch Corfforol Ymhlith Plant a Phobl Ifanc NDM7061 Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar weithgarwch corfforol
ymhlith plant a phobl ifanc, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 7 Mawrth 2019. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth
Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mai 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.51 NDM7061 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar weithgarwch
corfforol ymhlith plant a phobl ifanc, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2019. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Dewisiadau amgen i Ffordd Liniaru'r M4 NDM7066 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw am i'r
buddsoddiad gwreiddiol a glustnodwyd ar gyfer cynnig ffordd liniaru'r M4, ac a
wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru, gael ei glustnodi o'r newydd tuag at
ddatblygiad cyflym gweledigaeth hirdymor ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth
integredig gwyrdd a chynaliadwy yng Nghymru, sy'n cynnwys rhoi blaenoriaeth i
fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd o amgylch Casnewydd. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn chwarae
rhan ganolog wrth lywio gwaith cynllunio seilwaith cenedlaethol strategol a
hirdymor. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi’r
canlynol yn ei le: 1. Yn nodi’r
penderfyniad a’r datganiad llafar a wnaed gan Brif Weinidog Cymru ddydd Mawrth
4 Mehefin ynghylch prosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. 2. Yn nodi’r camau
arfaethedig nesaf fel yr amlinellwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a
Chomisiwn arbenigol i’w arwain gan yr Arglwydd Terry Burns. 3. Yn cydnabod y
problemau sylweddol o ran tagfeydd ar rwydwaith yr M4 ger Twnnelau Brynglas a’u
heffaith ar Gasnewydd a’r economi ehangach. 4. Yn nodi ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ariannu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblemau
tagfeydd fel rhan o system drafnidiaeth integredig, aml-ddull a charbon isel. Datganiad
Llafar: Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd Datganiad
Ysgrifenedig: M4 Casnewydd: Camau Nesaf [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 1. Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth yr
£114 miliwn o arian trethdalwyr Cymru sydd wedi'i wastraffu ar ddatblygu
cynigion ffordd liniaru'r M4. Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu ymhellach
at fethiant un Llywodraeth Lafur ar ôl y llall yng Nghymru i ddatrys tagfeydd
ar yr M4. Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i egluro ar frys beth yw ei chynlluniau yn y dyfodol ar gyfer datrys y
tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.55 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7066 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw am i'r buddsoddiad gwreiddiol a glustnodwyd ar gyfer cynnig
ffordd liniaru'r M4, ac a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru, gael ei glustnodi o'r
newydd tuag at ddatblygiad cyflym gweledigaeth hirdymor ar gyfer rhwydwaith
trafnidiaeth integredig gwyrdd a chynaliadwy yng Nghymru, sy'n cynnwys rhoi
blaenoriaeth i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd o amgylch Casnewydd. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Comisiwn Seilwaith
Cenedlaethol Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth lywio gwaith cynllunio
seilwaith cenedlaethol strategol a hirdymor.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi’r
canlynol yn ei le: 1. Yn nodi’r
penderfyniad a’r datganiad llafar a wnaed gan Brif Weinidog Cymru ddydd Mawrth
4 Mehefin ynghylch prosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. 2. Yn nodi’r camau
arfaethedig nesaf fel yr amlinellwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a
Chomisiwn arbenigol i’w arwain gan yr Arglwydd Terry Burns. 3. Yn cydnabod y
problemau sylweddol o ran tagfeydd ar rwydwaith yr M4 ger Twnnelau Brynglas a’u
heffaith ar Gasnewydd a’r economi ehangach. 4. Yn nodi ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ariannu atebion cynaliadwy ac effeithiol i
broblemau tagfeydd fel rhan o system drafnidiaeth integredig, aml-ddull a
charbon isel. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan
Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei phleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu pwynt 1. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth yr £114
miliwn o arian trethdalwyr Cymru sydd wedi'i wastraffu ar ddatblygu cynigion
ffordd liniaru'r M4. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Fel sy’n ofynnol o dan
Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei phleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu ymhellach at
fethiant un Llywodraeth Lafur ar ôl y llall yng Nghymru i ddatrys tagfeydd ar
yr M4. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Fel sy’n ofynnol o dan
Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei phleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i egluro ar frys beth yw ei chynlluniau yn y dyfodol ar gyfer datrys y
tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7066 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Comisiwn Seilwaith
Cenedlaethol Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth lywio gwaith cynllunio
seilwaith cenedlaethol strategol a hirdymor.
Gwrthodwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Lleihau Gwastraff Plastig NDM7065 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y
pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff
plastig. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd
amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y
cyhoedd. 3. Yn credu y dylai
Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal
ar gyfer cynwysyddion diodydd. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a chenhedloedd datganoledig
eraill i gymryd camau i helpu i ddileu gwastraff plastig y gellir ei osgoi drwy
hefyd: a) gwahardd cyflenwi
gwellt plastig, gan eithrio unigolion ag anableddau; b) atal y cyflenwad o
ffyn cotwm â choesau plastig, ac eithrio at ddefnydd gwyddonol; ac c) gwahardd trowyr
diodydd. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi’r
canlynol yn ei le: 1. Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y
mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff plastig. 2. Yn cydnabod bod Cymru ar flaen y gad
yn y DU gyda’r cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol presennol yn 62.7 y cant. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau
cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei
allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y cyhoedd. 4. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth
Cymru i leihau’r cyflenwad o boteli plastig untro yng Nghymru, gan gynnwys
menter Cenedl Ail-lenwi. 5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn
parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynigion ar gyfer cyflwyno cynllun
dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd ac yn credu y dylai
Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gall gyflwyno cynllun o’r fath. 6. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyfyngu ar wellt yfed plastig a gwahardd
trowyr diodydd plastig a ffyn cotwm yng Nghymru, yn unol â chyfarwyddyd yr
Undeb Ewropeaidd ar blastig untro, ynghyd â chyllyll a ffyrc a phlatiau
plastig; cynhwysyddion bwyd a diod polystyren ehangedig, a ffyn balwnau. Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddefnyddio ei phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a
thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro. Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am wahardd
deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw'n fioddiraddiadwy,
a fyddai'n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm plastig. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.46 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7065 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei
roi ar leihau gwastraff plastig. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er
mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a
chadw ymddiriedaeth y cyhoedd. 3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i gyflwyno
cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a
chenhedloedd datganoledig eraill i gymryd camau i helpu i ddileu gwastraff
plastig y gellir ei osgoi drwy hefyd: a) gwahardd cyflenwi gwellt plastig, gan eithrio unigolion ag anableddau; b) atal y cyflenwad o ffyn cotwm â choesau plastig, ac eithrio at
ddefnydd gwyddonol; ac c) gwahardd trowyr diodydd.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi’r
canlynol yn ei le: 1. Yn cydnabod y
pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff
plastig. 2.Yn cydnabod bod Cymru
ar flaen y gad yn y DU gyda’r cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol presennol yn
62.7 y cant. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd
amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y
cyhoedd. 4. Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i leihau’r cyflenwad o boteli plastig untro yng Nghymru, gan
gynnwys menter Cenedl Ail-lenwi. 5. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynigion ar
gyfer cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd ac yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gall gyflwyno cynllun o’r fath. 6. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyfyngu ar wellt yfed plastig a gwahardd
trowyr diodydd plastig a ffyn cotwm yng Nghymru, yn unol â chyfarwyddyd yr
Undeb Ewropeaidd ar blastig untro, ynghyd â chyllyll a ffyrc a phlatiau
plastig; cynhwysyddion bwyd a diod polystyren ehangedig, a ffyn balwnau. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddefnyddio ei phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a
thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am wahardd
deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw'n fioddiraddiadwy,
a fyddai'n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm plastig. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7065 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y
pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff
plastig. 2.Yn cydnabod bod Cymru
ar flaen y gad yn y DU gyda’r cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol presennol yn
62.7 y cant. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd
amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y
cyhoedd. 4. Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i leihau’r cyflenwad o boteli plastig untro yng Nghymru, gan
gynnwys menter Cenedl Ail-lenwi. 5. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynigion ar
gyfer cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd ac yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gall gyflwyno cynllun o’r fath. 6. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyfyngu ar wellt yfed plastig a gwahardd
trowyr diodydd plastig a ffyn cotwm yng Nghymru, yn unol â chyfarwyddyd yr
Undeb Ewropeaidd ar blastig untro, ynghyd â chyllyll a ffyrc a phlatiau
plastig; cynhwysyddion bwyd a diod polystyren ehangedig, a ffyn balwnau. 7. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddefnyddio ei phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a
thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro. 8. Yn galw am wahardd
deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw'n fioddiraddiadwy,
a fyddai'n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm plastig.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.37 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.44 NDM7064 Caroline Jones (Gorllewin
De Cymru) Mynd i'r afael â'r cynnydd mewn sgamiau yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |