Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Michelle Brown AS. |
|
Deisebau newydd COVID-19 |
|
P-05-1050 Ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gynnal pleidlais i gymeradwyo cyfyngiadau lleol cyn eu gweithredu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros i glywed barn bellach gan
y deisebydd. Cytunwyd hefyd
pan fydd y ddeiseb yn cael ei thrafod eto y bydd yn cael ei hystyried ochr yn
ochr â'r ddeiseb P-05-1104 Dylid gwneud i unrhyw gamau sy’n cael eu cyflwyno
o ran Covid-19 fod yn destun pleidlais yn Senedd Cymru yn y dyfodol. |
|
P-05-1052 Rhowch godiad cyflog i nyrsys yn unol â’r hyn a roddir i staff rheng flaen eraill yn ystod pandemig COVID-19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd ei fod yn cefnogi’r ddeiseb, yn
ogystal â’r ffaith ei bod yn ymddangos bod Corff Adolygu Cyflogau’r GIG yn
debygol o adrodd ar ei argymhellion ddechrau mis Mai. Cytunodd y Pwyllgor i groesawu’r ffaith bod y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn i’r adolygiad cyflog
gael ei ddwyn ymlaen ac ysgrifennu yn ôl ato i ofyn iddo gymryd unrhyw fesurau
sydd ar agor iddo yn y cyfamser gan gynnwys, er enghraifft, ystyried a all
ymrwymo i ôl-ddyddio unrhyw ddyfarniad cyflog i ddechrau’r pandemig. |
|
P-05-1075 Peidiwch â gosod terfyn o 15 person ar weithgareddau dan do wedi'u trefnu – fel gwersi nofio a dosbarthiadau ffitrwydd – ar ôl y cyfnod atal byr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy
Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ofyn i Lywodraeth Cymru
ddatblygu pecyn o adnoddau a gwybodaeth i gynorthwyo unigolion i gael mynediad
at ymarfer corff diogel ac addas wrth lynu at gyfyngiadau Covid-19. |
|
P-05-1087 Rhowch derfyn ar ynysu torfol gan blant ysgol iach! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y
deisebydd ar yr ymateb a ddarparwyd gan y Gweinidog, cyn penderfynu a ellid
cymryd camau pellach ynglŷn
â'r ddeiseb. |
|
P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
grwpio’r ddeiseb gyda deiseb P-05-1000
Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng
nghwricwlwm addysg Cymru, a’u hystyried gyda’i gilydd yn y dyfodol; ·
aros am sylwadau pellach gan y
deisebydd i’r ymateb i’r ddeiseb a roddwyd gan y Gweinidog Addysg; ac ·
ysgrifennu at Dangos y Cerdyn Coch
i Hiliaeth i ofyn iddynt am wybodaeth bellach am eu gwaith mewn perthynas â
hiliaeth a’r system addysg yng Nghymru y cyfeirir ati yn adroddiad Hiliaeth yng
Nghymru? a gofyn am eu barn ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb hon a
P-05-1000. |
|
P-05-1084 Dysgwch blant Cymru am sut y gwnaeth Cymru wladychu Patagonia Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd y
ddeiseb hon gyda P-05-1098 Dylai rôl Cymru yn hanes trefedigaethol Prydain
fod yn bwnc gorfodol mewn ysgolion. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y
deisebwyr cyn penderfynu a ellid gwneud gwaith pellach ynglŷn â’r deisebau. |
|
P-05-1098 Dylai rôl Cymru yn hanes trefedigaethol Prydain fod yn bwnc gorfodol mewn ysgolion. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd y
ddeiseb hon gyda deiseb P-05-1084 Dysgwch blant Cymru am sut y gwnaeth Cymru
wladychu Patagonia. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y
deisebwyr cyn penderfynu a ellid gwneud gwaith pellach ynglŷn â’r deisebau. |
|
P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd
i’r wybodaeth a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog a grwpio’r ddeiseb gyda
deiseb P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy'n
canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd, a’u hystyried gyda’i gilydd
yn y dyfodol. |
|
P-05-1081 Sicrhau bod perchnogion ail gartrefi a thai gwyliau ar rent yng Nghymru yn pleidleisio yn eu prif gyfeiriad yn unig, mewn etholiadau datganoledig a lleol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Comisiwn
Etholiadol i ofyn am eu barn ar y ddeiseb a’r materion a nodwyd gan y
deisebwyr, gan gynnwys esboniad llawnach o'r ‘meini prawf preswylio’ penodol y
dylid eu defnyddio gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol ac i ba raddau y mae hyn
yn cael ei fonitro a’i orfodi ar hyn o bryd. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-920 Cyllidebu Ysgolion ar gyfer ADY Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Gweinidog Addysg. Yn sgil sawl ymateb clir gan
y Gweinidog nad yw cyllid i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau addysg yn eu
hardaloedd yn cael ei neilltuo, mae’r adolygiad diweddar o gyllid ysgolion a’r
gwaith monitro arfaethedig o weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r
Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y pwynt
hwn a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-972 Dylid darparu o leiaf bedair awr y dydd o addysg fyw i bob disgybl tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth bellach a ddaeth i law ac, yn sgil gwaith craffu parhaus ar
fynediad i addysg tra bod ysgolion wedi cau sy’n cael ei gynnal gan y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r
deisebydd. |
|
P-05-1033 Dylid diddymu ffioedd cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) a diwygio ei drefniant yn llwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor fod y deisebydd yn anfodlon â’r ymatebion a ddaeth i law o ran y
ddeiseb. Fodd bynnag, yn sgil y wybodaeth a ddaeth i law a’r ymateb blaenorol
gan y Gweinidog Addysg, cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau y gallai eu
cymryd mewn cysylltiad â’r ddeiseb ar hyn o bryd. Felly, cytunodd i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-963 Dylid ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd sydd dros ben i elusennau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ailadroddodd
y Pwyllgor ei fod yn cefnogi’r ddeiseb. Yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Cymru
yn ceisio pwerau trwy Fil Amgylchedd y DU a fyddai’n ei galluogi i fynnu bod
bwyd dros ben yn cael ei ailddosbarthu, a’r ffaith bod y Bil hwnnw’n mynd trwy
Senedd y DU ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw beth pellach y
gallai wneud ar y mater ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a
diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y materion a nodwyd mewn dadl
ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn a’r ohebiaeth bellach a ddaeth i law gan y
deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog Addysg i ofyn am ymateb
i’r cwestiynau y mae’r deisebydd yn eu gofyn ynghylch yr hyn y bydd yr
adroddiadau presennol sy’n cael eu llunio yn ei ddarparu; a ·
Cyfoeth
Naturiol Cymru i ofyn am ei ymateb i’r ddeiseb, y wybodaeth bellach a ddaeth i
law hyd yma a’i farn ar y rôl bosibl y gallai ymchwiliad annibynnol ei chwarae. |
|
P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy’n agored i niwed a staff sy’n feichiog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu
yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn iddo ystyried
cyhoeddi cyfathrebiadau clir i Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y dylid
cefnogi gweithwyr cronfa y GIG, sydd wedi gweithio sifftiau rheolaidd ond nad
ydynt yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd oherwydd beichiogrwydd neu
fregusrwydd clinigol, yn ariannol yn ystod yr amgylchiadau presennol. |
|
P-05-1035 Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y materion a nodwyd mewn dadl ddiweddar yn y
Cyfarfod Llawn ar y pwnc hwn a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol i:
|
|
P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i: ·
ysgrifennu’n
ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i fynegi pryderon
am y diffyg cefnogaeth ar gael ar hyn o bryd i unigolion hunangyflogedig yn y
sector cerddoriaeth fyw a gofyn am roi ystyriaeth frys i sut y gall y
gefnogaeth a ddarperir trwy'r Gronfa Llawrydd gynyddu i wneud iawn yn well am
ddiffyg incwm oherwydd y pandemig a’r cyfyngiadau cysylltiedig; ·
gofyn am
eglurhad ynghylch a oedd cyhoeddiad diweddar gan y Canghellor yn nodi unrhyw
newidiadau yn y gefnogaeth sydd ar gael i unigolion hunangyflogedig yn y sector
cerddoriaeth fyw; ·
aros am
ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 5 adroddiad diweddar y Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith Covid-19 ar y celfyddydau. |
|
P-05-1027 Caniatáu clybiau pêl-droed domestig Cymru i chwarae gemau cyfeillgar, a chaniatáu cefnogwyr i fynd i’r gemau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn
o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae’n aelod o
fwrdd clwb pêl-droed yng Nghymru. Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd, yn sgil y
cynnydd yn lefel rhybudd coronafeirws i lefel 4, i gadw golwg fanwl ar y
ddeiseb. |
|
P-05-1037 Caniatáu i blant fynd i mewn i ardaloedd dan gyfyngiadau symud i barhau i hyfforddi gyda'u clybiau chwaraeon Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd, yn sgil y
ffaith bod y cyfyngiadau rhybudd lefel 4 Coronafeirws presennol yn gwahardd
gweithgareddau o’r fath ar hyn o bryd, i gadw golwg fanwl ar y ddeiseb. |
|
P-05-1099 Peidiwch â chau’r Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â'r
ddeiseb P-05-1100 Caniatáu i dafarndai a bwytai yng Nghymru weini
alcohol / aros ar agor ar ôl 6pm Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd, o gofio bod cyfyngiadau lefel
rhybudd 4 Coronafeirws ar waith ledled Cymru a bod y materion a nodir yn y
ddeiseb wedi cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar sawl achlysur, bod
digwyddiadau dilynol wedi dal i fyny â’r deisebau bellach ac nad oedd llawer o
gamau pellach y gellid eu cymryd ar hyn o bryd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i
gau’r deisebau a diolch i’r deisebwyr. |
|
P-05-1100 Caniatáu i dafarndai a bwytai yng Nghymru weini alcohol / aros ar agor ar ôl 6pm Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd y ddeiseb hon ar y cyd â’r
ddeiseb P-05-1099 Peidiwch â chau’r Sector Lletygarwch
(Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd, o gofio bod cyfyngiadau lefel
rhybudd 4 Coronafeirws ar waith ledled Cymru a bod y materion a nodir yn y
ddeiseb wedi cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar sawl achlysur, bod
digwyddiadau dilynol wedi dal i fyny â’r deisebau bellach ac nad oedd llawer o
gamau pellach y gellid eu cymryd ar hyn o bryd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i
gau’r deisebau a diolch i’r deisebwyr. |
|
P-05-1036 Caniatáu swigod cefnogaeth yn ystod y cyfyngiadau symud Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y rheolau
cyfredol ar ffurfio swigod cefnogaeth. Nododd yr Aelodau, yn lefelau rhybuddio
3 a 4, y caniateir i aelwydydd ag oedolyn sengl ymuno ag aelwyd arall ond na
fyddai hyn yn galluogi cyplau i allu mynd i mewn i gartrefi ei gilydd ym mhob
amgylchiad. Fodd bynnag, o ystyried y sefyllfa, cytunodd y Pwyllgor nad oedd
unrhyw waith pellach y gallai ei wneud ar y mater hwn ar hyn o bryd a chaeodd y
ddeiseb. |
|
P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg! Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
nad oedd unrhyw ohebiaeth wedi dod i law gan y deisebydd a chytunodd i gau’r
ddeiseb yn sgil hynny. |
|
P-05-947 Dylai llythyrau meddygon teulu fod am ddim i fyfyrwyr Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor nad oedd unrhyw ohebiaeth wedi dod i law gan y deisebydd a chytunodd i
gau’r ddeiseb yn sgil hynny. |