Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alun Davidson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/02/2021 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun
Davies AS. 1.3
Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant
fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro
Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol. |
|
(14.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 3 ac eitemau 6 i 9 Cofnodion: 2.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.00-14.30) |
Fframwaith cyffredin dros dro ar hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid - briffio technegol Emily Miles - Yr
Asiantaeth Safonau Bwyd Nathan Barnhouse
- Yr Asiantaeth Safonau Bwyd Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd yr Aelodau bapur briffio technegol ar y
fframwaith cyffredin dros dro ar hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. |
|
(14.40-16-10) |
Cymru yn y Deyrnas Unedig – trafodaeth bord gron gydag academyddion Yr Athro Nicola
McEwen - Prifysgol Caeredin Akash Paun -
Institute for Government Yr Athro Daniel
Wincott - Prifysgol Caerdydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Bu’r panel yn ateb cwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(16.10-16.15) |
Papurau i’w nodi |
|
Papur i’w nodi 1: Papur briffio Cyngor ar Bopeth Cymru: newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1.1 Nodwyd y papur. |
||
Papur i’w nodi 2: Gohebiaeth gan Lywydd Pwyllgor y Rhanbarthau Ewropeaidd a Llywydd Grŵp Cyswllt Pwyllgor y Rhanbarthau y DU â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch y Cytundeb Masnach a Chydweithrediad. Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2.1 Nodwyd y papur. |
||
(16.15-16.30) |
Cymru yn y Deyrnas Unedig – trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(16.30-16.40) |
Cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Ystyriodd yr Aelodau y cytundeb ar fasnachu nwyddau rhwng
Gwlad yr Iâ, Norwy a'r DU. 7.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
i ofyn ynglŷn â’r cytundeb. |
|
(16.40-16.50) |
Trafod y dogfennau cryno ar y Fframweithiau Cyffredin a ddaeth i law Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd yr Aelodau y dogfennau a ddaeth i law, a’u
nodi. |
|
(16.50-17.00) |
Y berthynas â'r UE yn y dyfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Bu'r Aelodau yn trafod, a chytunwyd ar eu dull
gweithredu o ran y berthynas â’r UE yn y dyfodol. |