Goruchwylio Archwilio Cymru
Goruchwylio Archwilio Cymru
Archwilio Cymru
yw nod masnachu dau endid cyfreithiol o dan Ddeddf
Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa
Archwilio Cymru. Mae gan bob un ei bwerau a'i ddyletswyddau penodol ei hun:
>>>>
>>>Mae'r
Archwilydd Cyffredinol yn archwilio ac yn adrodd ar gyrff cyhoeddus Cymru.
>>>Mae
Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu staff ac adnoddau eraill ar gyfer gwaith yr
Archwilydd Cyffredinol, ac yn monitro ac yn rhoi cyngor i’r Archwilydd
Cyffredinol.
<<<
Rhaid i Swyddfa
Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y cyd osod eu hamcangyfrif o
incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Senedd, fel sy’n
ofynnol o dan Adran 20 o Ddeddf
Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. O dan Reol
Sefydlog 20.22, rhaid i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar eu
hamcangyfrif, a gosod adroddiad gerbron y Senedd sy’n cynnwys yr amcangyfrif,
gydag unrhyw addasiadau y mae’n eu hystyried yn briodol, ar ôl ymgynghori â
Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Gellir gweld
dogfennau’n ymwneud â chyfrifoldebau'r Pwyllgor Cyllid yn y meysydd hyn ar
gyfer tymor y Senedd hon (Chweched Senedd) isod, ac ar gyfer tymor y Pumed
Senedd, trwy ddilyn y linc a ganlyn: (dogfennau’r
5ed Senedd)
Adroddiad y
Pwyllgor Cyllid - Penodi
Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru – Ionawr 2023
Cynhaliodd Pwyllgor
Cyllid y Pumed Senedd waith craffu
ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 a chyhoeddodd
ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2019.
Yn yr adroddiad,
cytunwyd i ymgynghori ar Fil Drafft, gyda’r bwriad o’i gyflwyno yn ystod y
Bumed Senedd. Gan fod y Bumed Senedd ar fin dod i ben, ni allai’r Pwyllgor
gyflwyno Bil Drafft ond cyflwynodd
adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad. (PDF 915KB)
Bydd dogfennau a
gyflwynir i’r Pwyllgor yn ystod tymor y Senedd hon mewn perthynas â’r gwaith
hwn yn cael eu cyhoeddi ar dudalen wreiddiol yr ymchwiliad i’r ‘Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio)
(Cymru) drafft’.
Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/07/2021
Dogfennau
- Llythyr oddi wrth Dom Houlihan, Cyfarwyddwr Pawb a’i Le, Llywodraeth Cymru ynghylch Aelodau anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru – 19 Ionawr 2024 PDF 117 KB Gweld fel HTML (1) 10 KB
- Penodi Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol i Swyddfa Archwilio Cymru - Ionawr 2023 PDF 395 KB
- Llythyr gan y Prif Weinidog ynghylch Penodi Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru – 24 Tachwedd 2022 PDF 144 KB
- Llythyr oddi wrth Peter Kennedy, Cyfarwyddwr Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu, ynghylch yr Aelodau anweithredol a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru – 7 Medi 2022 PDF 145 KB
- Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol ynghylch y defnydd o ‘ddiswyddo ac ailgyflogi’ gan gyrff sector cyhoeddus Cymru – 28 Ebrill 2022 PDF 97 KB
- Llythyr oddi wrth Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y defnydd o ‘ddiswyddo ac ailgyflogi’ gan gyrff sector cyhoeddus Cymru – 25 Ebrill 2022 PDF 102 KB