Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Croesawodd y Pwyllgor Busnes Lesley Griffiths fel y Gweinidog newydd ar gyfer busnes y Llywodraeth (yn dirprwyo ar ran Jane Hutt tan iddi gael ei hethol yn ffurfiol i’r Pwyllgor Busnes). |
|
Diwygiadau i Reolau Sefydlog 26 a 26A: Y Cyfnod Ailystyried Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y rheolwyr busnes mewn egwyddor i’r diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 26 a 26A. |
|
Diwygiadau i Reolau Sefydlog 21 a 27: Cyflwyno Adroddiadau ar Offerynnau Statudol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y rheolwyr busnes mewn egwyddor i’r diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 21 a 27. |
|
Diwygiadau i Reolau Sefydlog 29 a 30: Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU Dogfennau ategol: |
|
Biliau Perthnasol (Rheolau Sefydlog 29.1, 29.2 a 30) Cofnodion: Dywedodd y Gweinidog
dros Fusnes y Llywodraeth wrth y pwyllgor fod y Llywodraeth wedi methu dod
i gytundeb â Swyddfa Cymru ynghylch diwygio Nodyn Canllaw
Datganoli 9 yn unol â’r newiadau
arfaethedig hyd yma. Oherwydd hynny,
ni allai’r
Llywodraeth dderbyn yr holl welliannau
ar hyn o bryd a gofynnodd am fwy o amser i drafod
â Swyddfa Cymru. Cytunodd y rheolwyr busnes i ystyried ymhellach y diwygiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 29.1, 29.2 a 30 mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Busnes yn y dyfodol. |
|
Gwybodaeth mewn Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (Rheol Sefydlog 29.3) Cofnodion: Cytunodd y rheolwyr busnes mewn egwyddor i’r diwygiadau i Reol Sefydlog 29.3. |
|
Cyfeirio at Bwyllgor (Rheolau Sefydlog 29.4 a 29.5) Cofnodion: Cytunodd y rheolwyr busnes mewn egwyddor i’r diwygiadau i Reol Sefydlog 29.4 ac i ddileu Rheol Sefydlog 29.5. |
|
Cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (Rheolau Sefydlog 29.2A a 29.6) Cofnodion: Cytunodd y rheolwyr busnes mewn egwyddor i Reol Sefydlog 29.2A newydd a Rheol Sefydlog 29.6 diwygiedig. |