Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
||
Trafod sesiwn dystiolaeth 11 Tachwedd 2013 |
||
P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru Dogfennau ategol: |
||
P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau'r sesiynau tystiolaeth ar 11 Tachwedd a chytunwyd i
ofyn i'r Bwrdd Iechyd Lleol a oedd wedi gwneud Asesiad o Effaith y Traffig, a'r
hyn y gallai hynny ei ddangos o ran trin cleifion o fewn yr “awr aur”; ac
ystyried sylwadau ysgrifenedig pellach y deisebwyr. |
||
(09.05 - 09.10) |
P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin - Ynys Môn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth ar 11 Tachwedd a chytunwyd i: ·
ysgrifennu at Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru a'r Prif Gwnstabl i ofyn eu
barn am y gweithgaredd anghyfreithlon honedig ar y tir comin; ·
ysgrifennu at Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru i
gael eu barn am y materion a godwyd gan y deisebwyr; ·
gofyn i Bwyllgor yr Amgylchedd ystyried goblygiadau'r ddeiseb wrth drafod
deddfwriaeth sydd ar y gweill; ac ·
ailddosbarthu’r nodyn briffio cyfreithiol sy'n rhoi crynodeb o'r mater
ymhlith yr Aelodau. |
|
(09.10 - 09.15) |
P-04-496 Ysgolion Pob Oed Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i: ·
aros am farn y deisebwyr am yr ohebiaeth flaenorol gan y Gweinidog; ac ·
ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r awdurdodau esgobaethol
i ofyn eu barn am y ddeiseb. |
|
(09.15 - 09.20) |
P-04-432 - Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a gafwyd ar 11 Tachwedd, a chytunwyd i
roi crynodeb o drafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb, ac ymhelaethu ar y materion
ehangach, gan gynnwys rôl y Gwasanaeth Gyrfaoedd mewn ysgolion. |
|
(09.20 - 09.35) |
Deisebau newydd |
|
P-04-514 Dylid adeiladu gorsaf bŵer sy'n defnyddio glo glân o Gymru a/neu gorsaf ynni adnewyddadwy yn hytrach na gorsaf niwclear arfaethedig Wylfa B ar Ynys Môn. Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ofyn ei farn. |
||
P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn ei
barn am y ddeiseb; a ·
grwpio'r ddeiseb gyda deisebau eraill sy'n ymwneud â gwasanaethau bysiau
yng Nghymru, a gwneud ymchwiliad byr i'r problemau. |
||
P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn ei farn am y ddeiseb. |
||
P-04-517 Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno system i fonitro plant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref o dan wedd diogelu Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at: ·
y Gweinidog Addysg a Sgiliau; a’r ·
Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i ofyn eu barn am y ddeiseb, gan gynnwys
sut y mae Gweinidogion wedi asesu eu dyletswyddau mewn perthynas â Chonfensiwn
y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. |
||
P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at: ·
y Gweinidog Addysg a Sgiliau; a ·
Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn eu barn am y ddeiseb. |
||
(09.35 - 11.00) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-483 Polisi Cymraeg Clir / Plain English ar gyfer pob cyfathrebiad y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i lunio
crynodeb byr o ymatebion y rhanddeiliaid. |
||
P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn i'r Gweinidog, yng ngoleuni ei datganiad yn ddiweddar, beth yw'r
amserlen ar gyfer yr astudiaeth; a ·
gofyn i'r deisebwyr eto a oes ganddynt unrhyw ymateb i ddatganiad y
Gweinidog. |
||
P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn
i'r Gweinidog am wybodaeth am y datblygiadau diweddaraf wrth i'r camau
gweithredu a awgrymwyd gan y grŵp rhanddeiliaid gael eu datblygu gan
swyddogion y Gweinidog. |
||
P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn
i'r Gweinidog am wybodaeth am ganlyniadau'r gwaith o fonitro traffig yn y 12
mis nesaf, ac a oes unrhyw ddatblygiadau pellach gyda'r Asiantaeth Briffyrdd yn
Lloegr. |
||
P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at y Gweinidog gan rannu gohebiaeth ddiweddaraf y deisebwyr, a gofyn
am gael y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau ei hymholiadau i Lywodraeth y DU
a llywodraethau datganoledig eraill. |
||
P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb pellach, a gofyn am gael y wybodaeth
ddiweddaraf am y datblygiadau; a ·
gofyn i'r deisebwyr eto a oes ganddynt unrhyw ymateb i ddatganiad y
Gweinidog. |
||
P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
|
||
P-04-508 Rhaid adfer yr Olygfa o Landyfi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb yn sgîl ymateb y Gweinidog a nododd yn glir nad oes modd gostwng uchder
y wal. |
||
P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans yn Nhrefynwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb gan fod y camau gweithredu ar y mater bellach yn nwylo'r Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol. |
||
P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn
mynegi pryder ynghylch y diffyg ymateb, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a
Gofal Cymdeithasol. |
||
P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
nodi'r sefyllfa a gofyn i'r Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf, yn dilyn
Cyfnod 2 y Bil, ynghylch a yw'r newidiadau a wnaed wedi datrys y sefyllfa; a ·
gofyn i'r deisebydd am ei sylwadau ynghylch llythyr y Gweinidog. |
||
P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol Dogfennau ategol: |
||
P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y deisebau a chytunodd i: ·
Lunio llythyr drafft ar gyfer y Gweinidog yn dwyn ynghyd yr amryfal
faterion sydd wedi codi wrth drafod y ddeiseb, gan awgrymu materion i'r
Gweinidog eu trafod ymhellach; a ·
thrafod cau'r ddeiseb pan fydd hyn wedi'i wneud. |
||
P-04-463 Lleihau Lefelau Halen mewn Bwyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
gau'r ddeiseb yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, a nododd y camau gweithredu
sy'n cael eu cymryd ac sy'n bosibl ar hyn o bryd; a ·
thynnu sylw'r Gweinidog at gais y deisebydd am gyfarfod i fynd i'r afael
â'r materion hyn. |
||
P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at y Gweinidog, yn gofyn ei farn am sylwadau'r deisebydd. Yn benodol: ·
i ba raddau y caiff clinigwyr wyro o'r canllawiau; ·
sut y cyfrifwyd yr amcangyfrif o £15-50 miliwn o arbedion, a'r rheswm am
yr amrywiaeth eang yn y ddau ffigur; a ·
gofyn i'r Gweinidog a yw'r canllawiau'n cael eu defnyddio yn y GIG yn
rhannau eraill y DU. Hefyd, cytunodd y
Pwyllgor, yng ngoleuni'r cyfeiriad yn llythyr y Bwrdd Iechyd Lleol, i
ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn am ragor o wybodaeth am yr asesiad
a wnaed gan yr Ymgynghorwyr Iechyd Rhywiol o'r problemau a wynebwyd gan
gleifion. |
||
P-04-501 Gwneud Canolfannau Dydd ar gyfer pobl hŷn yn ofyniad statudol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i dynnu
sylw Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol at y ddeiseb,
a gofyn a oes ganddynt gapasiti i edrych ar y mater. |
||
P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
nodi'r ymatebion; a ·
grwpio'r ddeiseb gyda P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg
Plant a Phobl Ifanc, a dod yn ôl at y ddwy ddeiseb pan fydd y Gweinidog wedi
gorffen ei adolygiad. |
||
P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am
ymateb y deisebydd a'r Cyngor Sir. |
||
P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, a nododd yn glir nad yw'n cefnogi
moratoriwm ar ddatblygu ffermydd gwynt. |
||
P-04-423 Cartref Nyrsio Brooklands Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb gan fod y cais cynllunio, a oedd wrth wraidd y ddeiseb, bellach wedi'i
dynnu'n ôl. |
||
P-04-469 Dileu’r Cap Rhanbarthol ar Brisiau mewn Perthynas â’r Cynllun Hawl i Brynu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, a nododd yn glir nad yw Llywodraeth
Cymru yn bwriadu newid ei pholisi yn y maes hwn. |
||
P-04-473 Cymorth Ariannol ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ffermydd Gwynt Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb yn sgîl ymateb yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd a Llywodraeth Cymru, a
nododd eu barn yn glir. |
||
P-04-497 Cynllun Tai Cenedlaethol i Raddedigion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, a nododd ei bod yn annhebygol y byddai
Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu cynllun o'r fath. |
||
P-04-503 Adfywio Tonpentre a Phentre Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb, yng ngoleuni datganiad y Gweinidog bod y Rhaglen Gydgyfeirio
Ewropeaidd wedi'i hymrwymo'n llwyr, a'i bod yn rhy fuan yn y rhaglen newydd i
ystyried ceisiadau unigol. |
||
P-04-397 Cyflog Byw Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at Gyngor Partneriaeth y Gweithlu i ofyn pryd y maent yn bwriadu
datblygu'r cynllun Cyflog Byw. |
||
P-04-454 Gwahardd yr Arfer o Ddal Swyddi fel Cynghorydd ac fel Aelod Cynulliad ar yr un Pryd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn
eto i'r deisebydd a oes ganddo unrhyw sylwadau am yr ymatebion a ddaeth i law |
||
P-04-495 Rhoi Terfyn ar Fasnachu mewn Pobl a Chaethwasiaeth yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth
Leol gan dynnu sylw at y ddeiseb fel rhan o'r gwaith y mae’r Pwyllgor yn ei
wneud ar hyn o bryd mewn perthynas â Masnachu mewn Pobl; a ·
chau'r ddeiseb. |
||
P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i'w
gohirio a'i thrafod mewn cyfarfod yn y dyfodol, er mwyn i'r Pwyllgor gael amser
i ystyried barn y deisebwyr am lythyr yr RSPCA. |
||
P-04-422 Ffracio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10
Rhagfyr 2013. |
||
P-04-444 : Ymgyrch 'Dig for Victory' Dogfennau ategol: Cofnodion: Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10
Rhagfyr 2013. |
||
P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10
Rhagfyr 2013. |
||
P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales Dogfennau ategol:
Cofnodion: Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10
Rhagfyr 2013. |
||
P-04-484 Lwfans Cynhaliaeth Addysg i bawb! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10
Rhagfyr 2013. |