Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Sesiwn Dystiolaeth - P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru Catriona Williams OBE – Prif Weithredwr, Plant yng
Nghymru Lynne Hill – Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru Ed Janes – Swyddog Datblygu (Cyfranogiad), Plant yng
Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd y tystion a ganlyn gwestiynau gan y Pwyllgor: ·
Catriona Williams OBE – Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru ·
Lynne Hill – Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru ·
Ed Janes – Swyddog Datblygu (Cyfranogiad), Plant yng Nghymru |
|
Deisebau newydd |
|
P-04-612 Dŵr Potel Gwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb yn sgil ymateb y Gweinidog. |
|
P-04-614 Cefnogi Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf Arriva Trains Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at:
|
|
P-04-615 Taliad Benthyciad Teg i Fyfyrwyr yn y Flwyddyn Olaf o Hyfforddiant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog
ymateb i'r materion manwl a godwyd gan y deisebydd, ac yn enwedig a yw'n barod
i ymestyn diffiniad y tymor i gynnwys gwyliau'r haf os bydd myfyrwyr yn dal i
astudio. |
|
P-04-616 Rhaid Atal Gwerthu Tân Gwyllt i’r Cyhoedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog, yn cynnwys y cyngor cyfreithiol yr oedd y Pwyllgor wedi ei dderbyn,
a gofyn am ei farn. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
unwaith eto at y deisebydd yn gofyn am ei barn am y llythyr gan y Bwrdd Iechyd.
Ar bwynt ehangach cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at:
|
|
P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru. Dogfennau ategol: Cofnodion: Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 4.4. |
|
P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-x ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn Dogfennau ategol: Cofnodion: Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 4.4. |
|
P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-x i Ysbyty Coffa Ffestiniog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r
Gweinidog hysbysu'r Pwyllgor o ddatblygiadau ar y cyfleusterau iechyd newydd ar
gyfer Blaenau Ffestiniog a'r cynnydd gan y byrddau iechyd wrth ymateb i'r
adroddiad ar yr astudiaeth o ofal iechyd yng nghanolbarth Cymru. |
|
P-04-570 Argaeledd Anghyfartal o Ran Triniaethau Nad Ydynt Wedi’u Harfarnu’n Genedlaethol Gan GIG Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r
Gweinidog amlinellu'r amserlenni ar gyfer datblygu polisïau comisiynu dros dro,
i alluogi mynediad i feddyginiaethau arbenigol ac uwch-arbenigol tra bod
prosesau newydd yn cael eu datblygu. |
|
P-04-604 Diddymu Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes a chanslo cyfarfodydd y Grŵp Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig ym Mhowys. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i gau'r ddeiseb
wedi i'r Gweinidog gadarnhau bod y Grŵp Cynllunio a Chyflawni ar gyfer
Diabetes bellach wedi ei ailsefydlu. |
|
P-04-602 Personoleiddio Beddau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
|
|
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn i'r Gweinidog ymateb i sylwadau pellach y deisebydd, yn enwedig y tri chais
ar dudalen olaf ei ymateb; ac ·
ystyried yng ngoleuni'r ymateb hwnnw i gymryd tystiolaeth lafar gan y
Deisebydd a'r Gweinidog. |
|
P-04-581 Gwrthwynebu’r Toriadau yn y Ddarpariaeth ar gyfer Dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog
am ei sylwadau ar ymateb y deisebwyr, yn enwedig a ddylai blaenoriaeth ddigonol
gael ei roi i ddysgwyr Saesneg fel iaith ychwanegol yng Nghaerdydd, Casnewydd
ac Abertawe. |
|
P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am
farn y Gweinidog ar sylwadau’r deisebydd.
|
|
P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
|
|
P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb defnyddiol, a gofyn am gael y wybodaeth
ddiweddaraf am y datblygiadau; ac ·
Ailgysylltu gyda'r deisebydd neu barti arall fyddai â diddordeb i weithredu
ar eu rhan, o gofyn eu barn ar yr ohebiaeth ddiweddar. |
|
P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 4.15. |
|
P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo Dogfennau ategol: Cofnodion: Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 4.15. |
|
P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
|
|
P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i nodi'r sefyllfa
ac aros am ganlyniadau'r adolygiad cyfyngiadau cyflymder. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Item
6 Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
Blaenraglen waith Cofnodion: Trafododd yr Aelodau flaenraglen waith y Pwyllgor. |