Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd  / Deddfwriaeth: Fay Buckle

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Darren Millar a Kirsty Williams am y cyfarfod cyfan ac Elin Jones a Lynne Neagle am sesiwn y prynhawn.

 

 

(09.30 - 10.30)

2.

Craffu ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

HSC(4)-28-12 papur 1

          Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru gwestiynau gan aelodaur Pwyllgor.

 

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 3 & 11 Hydref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion cyfarfodydd 3 a 11 Hydref.

 

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

(10.30 - 12.00)

5.

Ymchwiliad i Ofal Preswyl ar gyfer Pobl Hŷn - Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i drefnu sesiwn i’w ystyried eto ar 7 Tachwedd.

 

(13.15 - 14.00)

6.

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) Drafft - Sesiwn friffio ffeithiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru

Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru a’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol

Grant Duncan, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Feddygol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ymgynghori’r Llywodraeth

Dogfen ymgynghori

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) Drafft

Memorandwm Esboniadol Drafft

Cofnodion:

6.1 Atebodd y swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar Fil drafft Trawsblannu Dynol (Cymru).

 

Trawsgrifiad