Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 235(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1, 2, a 4-8. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Bydd y Llywydd yn
galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.17 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2, 3, 7 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant,
Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(20 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.10 Gofynnwyd
y 4 cwestiwn. |
|
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Dirprwy
Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Yn dilyn yr ansicrwydd am
brosesydd llaeth Tomlinsons Dairy, a’r ffaith fod yna 70 o ffermydd llaeth a channoedd
o swyddi yn ddibynol ar yr hufenfa, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu
cymryd i gynorthwyo’r cwmni a’r gweithlu? Gofyn i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Alun Davies (Blaenau Gwent): Pa sylwadau y mae
Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud yn dilyn carcharu arweinwyr gwleidyddol
etholedig Catalonia? Gofyn
i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth David Rees (Aberafan): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch cau Hi-Lex a
cholli 120 o swyddi ym Mharc Ynni Baglan? (TAQ355) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.21 I’w ateb gan Ddirprwy Weinidog
yr Economi a Thrafnidiaeth Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru): Yn dilyn yr ansicrwydd am brosesydd llaeth Tomlinsons Dairy, a’r ffaith
fod yna 70 o ffermydd llaeth a channoedd o swyddi yn ddibynol ar yr hufenfa, pa
gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo’r cwmni a’r gweithlu?
I’w
ateb gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Alun Davies (Blaenau
Gwent): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud yn dilyn carcharu
arweinwyr gwleidyddol etholedig Catalonia?
Gofyn i Weinidog yr
Economi a Thrafnidiaeth David
Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch cau Hi-Lex
a cholli 120 o swyddi ym Mharc Ynni Baglan? |
|
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.07 Gwnaeth Suzy Davies
ddatganiad am - Diwrnod Adfywio Calon.
Gwnaeth
Ann Jones ddatganiad am - Dangos y cerdyn coch i hiliaeth. |
|
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Defnyddio Plastigau Untro NDM7155 Huw
Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil ar ddefnyddio plastigau untro. 2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai: a) lleihau'n sylweddol
y defnydd o blastigau untro yn seiliedig ar yr arferion a'r ymchwil rhyngwladol
gorau, a fyddai'n sefydlu Cymru fel arweinydd byd o ran lleihau gwastraff
plastig; b) cyflwyno trethi ac
ardollau priodol er mwyn lleihau'n sylweddol y gwaith o gynhyrchu plastigau
untro yng Nghymru a'r defnydd ohonynt; c) cyflwyno cynllun
gweithredu trawslywodraethol gan gynnwys cyfres gynhwysfawr o fesurau i
leihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro; d) pennu targedau a
cherrig milltir ar gyfer lleihau plastigau untro penodol. Cefnogwyr Andrew
R.T. Davies (Canol De Cymru) Dawn
Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni) Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru) Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.10 NDM7155 Huw Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar ddefnyddio plastigau untro. 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a)
lleihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro yn seiliedig ar yr arferion a'r
ymchwil rhyngwladol gorau, a fyddai'n sefydlu Cymru fel arweinydd byd o ran
lleihau gwastraff plastig; b)
cyflwyno trethi ac ardollau priodol er mwyn lleihau'n sylweddol y gwaith o
gynhyrchu plastigau untro yng Nghymru a'r defnydd ohonynt; c)
cyflwyno cynllun gweithredu trawslywodraethol gan gynnwys cyfres gynhwysfawr o
fesurau i leihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro; d)
pennu targedau a cherrig milltir ar gyfer lleihau plastigau untro penodol. Cefnogwyr Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru) Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni) Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: y Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu NDM7161 John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Gynllun y Bathodyn Glas
yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 8 Gorffennaf 2019. Nodyn: Gosodwyd ymatebion Llywodraeth
Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.49 NDM7161 John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Gynllun y Bathodyn Glas
yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Treth Gyngor ar Ail Gartrefi NDM7162 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod treth gyngor yn
cael ei thalu ar ail gartrefi. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.41 NDM7162 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
treth gyngor yn cael ei thalu ar ail gartrefi. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod pleidleisio |
||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7159 Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Ffrind gorau ar y
stryd ac oddi arni: herio'r polisi 'dim cŵn' mewn lloches a llety i'r
digartref. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.32 NDM7159 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Ffrind
gorau ar y stryd ac oddi arni: herio'r polisi 'dim cŵn' mewn lloches a
llety i'r digartref. |
|
Dadl Fer - TYNNWYD YN ÔL |