Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/02/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Deisebau newydd Covid-19 |
|
P-05-1092 Peidiwch â gohirio etholiadau mis Mai 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog eto yn gofyn iddo esbonio
o dan ba amgylchiadau’n union y byddai’n ystyried gohirio etholiad y Senedd
eleni, a pha feini prawf y byddai angen eu bodloni cyn y byddai’n ei ohirio. |
|
P-05-1108 Cyhoeddi canllawiau a chynllun talebau i achub gweithgarwch y sector babanod a phlant bach yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac o ystyried yr ymateb a gafwyd gan y Dirprwy
Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, roedd modd cynnal gweithgareddau a
oedd wedi'u trefnu ar gyfer plant ac eithrio pan oedd lefel rhybudd pedwar ar
waith. Roedd y canllawiau perthnasol wedi'u cyhoeddi, a chytunwyd i gau'r
ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1114 Dylid caniatáu i aciwbigwyr traddodiadol yng Nghymru weithio yn ystod cyfnodau clo Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac o ystyried bod y deisebydd yn derbyn bod
y fersiwn ddiweddaraf o reoliadau Coronafeirws yn rhestru gwasanaethau aciwbigo
fel “mangreoedd esempt”, a all agor os ydynt yn darparu triniaethau meddygol,
cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1116 Rhowch flaenoriaeth i bobl ag anabledd dysgu gael eu brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Leanne
Wood y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae hi'n adnabod
y deisebydd. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eto ynghylch y rhaglen frechu a gofyn: ·
a fyddai modd ystyried rhoi
blaenoriaeth i bobl ag anableddau dysgu o bob oed sy'n byw mewn lleoliadau
preswyl neu gartref gofal; ·
beth a ystyriwyd wrth bennu lefel
flaenoriaeth i’r grŵp hwn; a ·
pryd y dylai'r grŵp hwn
ddisgwyl cael eu brechlyn, yn ôl y rhaglen frechu bresennol. |
|
P-05-1121 Agor ysgolion i blant gweithwyr allweddol yn unig dros gyfnod clo Ionawr 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac o ystyried y ffaith bod amcanion y
ddeiseb wedi’u cyflawni, a bod ysgolion ar gau i’r rhan fwyaf o’r disgyblion
tan hanner tymor mis Chwefror o leiaf, cytunwyd i gau’r ddeiseb a diolch i’r
deisebydd. |
|
P-05-1085 Gwneud hyfforddiant gwrth-hiliaeth yn orfodol i bob Cynghorydd etholedig ac Aelod o'r Senedd yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ragor o sylwadau gan y
deisebydd, cyn ystyried a yw'n gallu cymryd unrhyw gamau eraill mewn perthynas
â’r ddeiseb. |
|
P-05-1090 Diogelwch ar y ffyrdd: Gostwng y terfyn cyflymder ar gefnffordd yr A487 i 20 milltir yr awr drwy Benparcau, Aberystwyth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. O ystyried y wybodaeth a
gafwyd gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gan gynnwys y
datganiad y dylai’r awdurdod lleol ymgynghori â'r gymuned ynghylch a ddylid
cynnwys y rhan hon o'r ffordd yn y rhaglen genedlaethol i osod terfyn cyflymder
diofyn o 20mya yn genedlaethol, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd llawer y
gallai ei wneud ar lefel genedlaethol ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor,
felly, i ysgrifennu at y deisebydd i ddiolch iddo am godi’r mater, ac awgrymu y
dylai ofyn i Gyngor Sir Ceredigion ystyried ymateb y Dirprwy Weinidog, a
chaewyd y ddeiseb. |
|
P-05-1094 Rhoi terfyn ar ddirywiad treftadaeth Pontypridd - achubwch y Bont Wen Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor
Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i holi am y wybodaeth ddiweddaraf am y
sefyllfa bresennol o ran y ‘Bont Wen’ a’r opsiynau y mae’r Cyngor yn eu
hystyried. |
|
P-05-1105 Gwnewch hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn orfodol mewn ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd y rhinwedd yn yr hyn roedd yn ei
gynnig. Nododd y Pwyllgor fod Aelodau o’r Senedd yn gallu cynnig gwelliannau
i’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) ar
hyn o bryd fel rhan o’r broses o graffu ar ddeddfwriaeth. Gan y bydd y Bil yn
pennu strwythur a chynnwys Cwricwlwm newydd Cymru, gan gynnwys pa elfennau sy’n
orfodol, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer mwy y gallai ei wneud ar hyn o bryd
a chytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1109 Rhaid darparu lleoedd parcio pwrpasol am ddim ar gyfer holl staff ysbytai Cymru yn ystod eu sifft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gau’r ddeiseb o ystyried yr
ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a diolch
i’r deisebydd. |
|
P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nodwyd yr ohebiaeth a ddaeth i law. O
gofio nad oes fawr o amser yn weddill yn y Senedd bresennol,
nid oes disgwyl i ymchwil Llywodraeth Cymru gael ei gyhoeddi tan y gwanwyn a
chan fod y ddeiseb yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gymryd camau penodol,
cytunodd y Pwyllgor i drosglwyddo’r ddeiseb i’r Chweched Senedd ei hystyried. |
|
P-05-1113 Cyflwyno mesurau diogelwch ar y ffyrdd ar yr A44 yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd ddatganiad
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru y dylid gosod croesfan ac
ystyried ymgymryd â rhagor o waith yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Nododd y
Pwyllgor hefyd y datganiad y bydd angen i'r awdurdod lleol arwain ymgynghoriad
cymunedol ynghylch a ddylid cynnwys y rhan hon o'r ffordd wrth weithredu terfyn
cyflymder diofyn 20mya yn genedlaethol, a daeth i'r casgliad nad oedd llawer y
gallai ei wneud ar lefel genedlaethol ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor,
felly, i ysgrifennu at y deisebydd i ddiolch iddo am godi’r mater, ac awgrymu y
dylai ofyn i Gyngor Sir Ceredigion ystyried ymateb i’r Dirprwy Weinidog, a
chaewyd y ddeiseb. |
|
P-05-1137 Galwad ar i Lywodraeth Cymru roi cyllid teg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd bod teimladau cryf o blaid y
ddeiseb a bod y
Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cyhoeddi cyllid
ychwanegol. Cytunodd y Pwyllgor i anfon cynigion
ychwanegol y deisebydd at y Dirprwy Weinidog a disgwyl am ymateb ysgrifenedig
ffurfiol gan y Dirprwy Weinidog cyn ystyried pa gamau eraill y gallai eu
cymryd. Roedd y Pwyllgor hefyd am longyfarch y deisebydd a'i chefnogwyr ar
lwyddiant eu hymgyrch ar y mater hwn. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-795 Achosi Niwsans neu Aflonyddwch ar safleoedd y GIG Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
a ddaeth i law ac, o ystyried faint o
amser a oedd wedi mynd heibio ers cyflwyno’r ddeiseb heb ddiweddariad na
chynnydd sylweddol, ac o ystyried na chafwyd ymateb gan y deisebydd ers
cyflwyno’r ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Velindre newydd arfaethedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Mae ganddo ddiddordeb mewn cael y gofal canser
gorau posibl yn Ne Cymru. Trafodwyd y
ddeiseb hon ar y cyd â P-05-1018
Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan
Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol. Trafododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i: ·
ysgrifennu at
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i ofyn am ymateb i nifer o gwestiynau
ychwanegol, gan gynnwys mewn perthynas â bodolaeth 'adroddiad Barrett',
pryderon a godwyd gan y BMA ym mis Awst ynghylch ymgynghori â staff, a nifer y
galwadau brys a throsglwyddiadau i safleoedd eraill; a ·
chytunwyd i
ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn iddo ystyried a fyddai’n bosibl trefnu
dadl ynghylch y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn cyn diwedd y Senedd hon. |
|
P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Neil
McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ganddo
ddiddordeb mewn cael y gofal canser gorau posibl yn Ne Cymru. Trafodwyd y
ddeiseb hon ar y cyd â P-05-1001
Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser
Felindre newydd arfaethedig Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i: ·
ysgrifennu at
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i ofyn am ymateb i nifer o gwestiynau
ychwanegol, gan gynnwys mewn perthynas â bodolaeth 'adroddiad Barrett',
pryderon a godwyd gan y BMA ym mis Awst ynghylch ymgynghori â staff, a nifer y
galwadau brys a throsglwyddiadau i safleoedd eraill; a ·
chytunwyd i
ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn iddo ystyried a fyddai’n bosibl trefnu
dadl ynghylch y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn cyn diwedd y Senedd hon. |
|
P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i anfon sylwadau ychwanegol y
deisebydd a’i gynigion at y Gweinidog Iechyd Meddwl a gofyn am ymateb penodol
i’r rhain. Gofynnodd y Pwyllgor i'r sylwadau gael eu hanfon hefyd at y bwrdd
rhwydwaith iechyd meddwl a'r fforwm iechyd meddwl cenedlaethol ar gyfer
defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i'w defnyddio yn y gwaith sy'n mynd rhagddo ar
hyn o bryd mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl. |
|
P-05-1068 Caniatáu cyfarfodydd ymbellhau cymdeithasol mewn gerddi preifat i ddilyn y wyddoniaeth ac osgoi teimlo’n ynysig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu
at y Prif Weinidog eto i’w annog i ystyried caniatáu i bobl ymweld ag eraill
mewn gerddi mewn ymdrech i helpu’r rhai sy’n teimlo’n bod wedi’u hynysu’n
gymdeithasol, a hynny cyn gynted ag y bydd y sefyllfa mewn perthynas ag
achosion Covid-19 a’r rhaglen frechu’n caniatáu. |
|
P-05-1070 Dylid cynghori pawb yng Nghymru sy'n eithriadol o agored i niwed neu a fu’n cysgodi gynt i aros gartref, nid mynd i’r gwaith, yn ystod cyfnodau pan fo lefel uchel o haint Covid-19 yn y gymuned Dogfennau ategol:
Cofnodion: Croesawodd y
Pwyllgor yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,
a’r penderfyniad i ymestyn y cyfnod cysgodi tan ddiwedd mis Mawrth 2021. Gan
hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd am godi’r
mater hwn. Roedd y Pwyllgor am
longyfarch y deisebydd am gyflawni’i hamcanion. |
|
P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn a fyddai’n bosibl cynnal
dadl ynghylch y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn cyn diwedd y Senedd hon. |
|
P-05-903 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cyngor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
fod canllawiau cyfathrebu ar gyfer cynghorau tref a chymuned wedi'u cyhoeddi
erbyn hyn a’u bod yn amlinellu'r gofynion statudol a’r cyngor ynghylch arfer
da. Gan hynny, a chan fod tymor y Senedd hon bron â dod i ben, cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1025 Tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law ac, o ystyried bod y
deisebwyr yn
fodlon â’r penderfyniad i ddysgwyr a oedd i fod i sefyll arholiadau TGAU, UG a
Safon Uwch yn 2021 gael Graddau a bennir gan Ganolfan, cytunodd y Pwyllgor i
gau'r ddeiseb a diolch a llongyfarch y deisebwyr am eu gwaith. |
|
P-05-1026 Deiseb i wahardd maglu bywyd gwyllt i’w defnyddio yn y fasnach ffwr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law ac, o ystyried bod Llywodraeth Cymru yn
bwriadu cyflwyno Papur Gwyn ar gyfer Bil Amaethyddiaeth yn ystod tymor nesaf y
Senedd, cytunodd nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd cyn
etholiadau Senedd 2021. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r
deisebydd. |
|
P-05-1040 Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig eto i ofyn am ymateb i gais blaenorol y
Pwyllgor am esboniad llawn o’r ffaith bod y Llywodraeth yn teimlo na fyddai
moratoriwm ar ddatblygu llosgyddion newydd yn briodol ar hyn o bryd. |
|
P-05-1051 Caniatáu i athletwyr iau Cymru hyfforddi dan yr un rheoliadau Covid â’u cymheiriaid iau yn Lloegr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb a gafwyd gan y Dirprwy
Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. O ystyried nad oedd y sefyllfa
wedi newid ers i’r ddeiseb gael ei chyflwyno’n wreiddiol, a’r ffaith nad oedd y
deisebydd wedi cysylltu wedyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r
deisebydd. |
|
P-05-1061 Rhowch gefnogaeth ariannol i fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth
i law a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd
Cymru eto i alw am newid y meini prawf cymhwysedd ar gyfer grantiau Cronfa
Busnes Cyfyngiadau fel y gall busnesau lletya anifeiliaid anwes fanteisio
arnynt. |
|
P-05-1069 Arbed y tir fferm a'r caeau gwyrdd yn Cosmeston Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi
cwrdd â'r deisebwyr Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law ac, o ystyried penderfyniad Llywodraeth
Cymru i beidio â thynnu ei chais yn ôl, cytunodd i gadw golwg ar y camau nesaf
y broses gynllunio a gofyn i'w Bwyllgor olynol adolygu'r ddeiseb ar adeg
briodol. |
|
P-05-1072 Ymchwilio i’r pwerau sydd gan Senedd Cymru mewn perthynas â gwahardd therapi newid cyfeiriadedd rhywiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i aros am sylwadau ychwanegol
gan y deisebydd cyn ystyried a allai gymryd unrhyw gamau eraill mewn perthynas â’r ddeiseb. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 5. Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Ystyried adroddiad drafft - P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft, derbyniodd nifer o welliannau a chytunodd i
gadarnhau'r drafft terfynol y tu allan i'r Pwyllgor. |