Agenda a Chofnodion
Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd - Dydd Iau, 21 Medi 2017 09.50
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF
999KB) Gweld fel HTML
(999KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb yn
ystod eitemau 5-8 gan Janet Finch-Saunders AC. Roedd David Melding AC yn
bresennol fel dirprwy ar gyfer Janet yn ystod eitem 8. 1.3
Cafwyd datganiad o fuddiant gan Janet Finch-Saunders AC
fel perchennog eiddo. |
||
(10.05 - 11.05) |
Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – sesiwn dystiolaeth 7 Dr Sharon
Wright, Uwch-ddarlithydd mewn Polisi Cyhoeddus, Astudiaethau Trefol, Ysgol
Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol Prifysgol Glasgow Dr Lisa Scullion,
Darllenydd mewn Polisi Cymdeithasol, Prifysgol Salford Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Dr Sharon Wright, Uwch-ddarlithydd mewn Polisi Cyhoeddus, Astudiaethau
Trefol, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol Prifysgol Glasgow ·
Dr Lisa Scullion, Darllenydd mewn Polisi Cymdeithasol, Prifysgol Salford |
|
(11.15 - 12.15) |
Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – sesiwn dystiolaeth 8 Ed Evans,
Cyfarwyddwr, y Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Andrew
Marchant, Cadeirydd, Cynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Ed Evans, Cyfarwyddwr, y Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil ·
Andrew Marchant, Cadeirydd, Cynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru 3.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Cynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru i
ddarparu canlyniadau'r ymarferion Rhyddid Gwybodaeth a wnaed yn 2014 a 2016, a
oedd yn gofyn am wybodaeth am gyrff cyhoeddus nad oeddent yn cydymffurfio â
pholisïau moesegol Llywodraeth Cymru. |
|
(13.00 - 14.00) |
Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – sesiwn dystiolaeth 9 Mark
Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Sue
Moffatt, Cyfarwyddwr, Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ·
Sue Moffatt, Cyfarwyddwr, y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol |
|
Papur(au) i'w nodi |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gymunedau a Phlant ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig
(Cymru). |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2.a Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyllideb Llywodraeth Cymru ar
gyfer 2018-19. |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Oxfam am ymagweddau'n seiliedig ar asedau tuag at leihau tlodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyllideb
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19. |
||
Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet
dros Gymunedau a Phlant ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng
Nghymru. |
||
Llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch hawliau dynol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau
Dynol ynghylch hawliau dynol yng Nghymru. |
||
Llythyr gan y Llywydd ynghylch Gweithredu Deddf Cymru 2017 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.6.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Llywydd ynghylch Gweithredu
Deddf Cymru 2017. |
||
Llythyr gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.7.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Llywydd ynghylch Gweithredu
Deddf Cymru 2017. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(14.00 - 14.20) |
Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3 a 4 Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3 a 4 a
chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
ynghylch nifer o faterion a godwyd. |
|
(14.20 - 14.30) |
Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - Trefn Ystyried - cytuno mewn egwyddor cyn trafodion Cyfnod 2 Cofnodion: 8.1 Cyn y ddadl Cyfnod 1 ar 5 Hydref a chyn cytuno ar egwyddorion cyffredinol
Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), cytunodd y Pwyllgor,
mewn egwyddor, ar y drefn a ganlyn ar gyfer trafodion Cyfnod 2: - Adrannau 2 i 6 - Atodlen 1 (a
gyflwynir gan adran 6) - Adrannau 7 i
12 - Adran 1
(Trosolwg o'r Bil). - Teitl hir |