Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan Siân Gwenllian AC a Jack Sargeant AC. |
||
(09.30 - 11.00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: sesiwn dystiolaeth 2 Rebecca Evans AC,
Y Gweinidog Tai ac Adfywio Jo-anne Daniels, Cyfarwyddwr,
Cymunedau a Trechu Tlodi, Llywodraeth Cymru John Howells, Cyfarwyddwr
Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan: Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio 2.2 Yn ystod y sesiwn
dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r eitemau a ganlyn: ·
Nodyn ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan undebau credyd i hyrwyddo eu
cyfleusterau benthyca; ·
Mewn perthynas â tharged cyffredinol y Llywodraeth o 20,000 o gartrefi
fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn, gwybodaeth ynghylch nifer y
cartrefi hyn sy'n dod o dan y diffiniad traddodiadol o dai fforddiadwy; ·
Enghreifftiau o arferion da mewn perthynas â'r gwaith a wneir gan Fwrdd
Rheoleiddiol Cymru i wella cyfranogiad tenantiaid. |
|
(11.00 - 12.30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: sesiwn dystiolaeth 3 Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth
Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Llywodraeth
Cymru Jo-anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau & Trechu
Tlodi, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
3.2 Cytunodd
Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu'r eitemau a ganlyn:
|
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1.a
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch
gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel. |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyllid ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag
incwm isel |
||
Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3.a Nododd y
Pwyllgor y llythyr gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ynghylch gwneud i'r
economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch byrddau gwasanaethau cyhoeddus Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch byrddau
gwasanaethau cyhoeddus |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a phob Awdurdod Lleol arall Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.5.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y
Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref
Sirol Castell-nedd Port Talbot a phob Awdurdod Lleol arall |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Llywydd ynghylch Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y
Pwyllgor Cyllid at y Llywydd ynghylch Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
(Cymru). |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(12.30 - 13.00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3, 4 a 5 Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o
dan eitemau 2 a 3, a fydd yn llywio ei adroddiad drafft. |