Cafodd y Pwyllgor
hwn o’r Pedwerydd
Cynulliad ei ddiddymu. Caiff pwyllgorau newydd eu ffurfio yn ystod y Pumed
Cynulliad
Y Pwyllgor Busnes
oedd yn gyfrifol am drefnu Busnes y Cynulliad. Hwn yw’r unig Bwyllgor y
disgrifir ei swyddogaethau a’i gylch gwaith yn y Rheolau Sefydlog. Ei waith yw
"hwyluso’r modd o drefnu trafodion y Cynulliad yn effeithlon", fel y
nodir yn Rheol
Sefydlog 11.1.
Y Llywydd oedd yn
cadeirio’r cyfarfodydd, ac roedd y Gweinidog dros Fusnes y Llywodraeth a
Rheolwr Busnes pob un o’r pleidiau eraill a gynrychiolir yn y Cynulliad yn
bresennol hefyd.
Roedd y Pwyllgor
fel arfer yn cyfarfod yn breifat bob wythnos pan fydd y Cynulliad yn cyfarfod.
Bydd yn rhoi sylwadau ar gynigion ar gyfer trefnu busnes y Llywodraeth ac yn
penderfynu ar drefn busnes y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn. Ar gyfer y cyfarfodydd
hyn, dim ond y cofnodion a gaiff eu cyhoeddi (gweler isod).
Roedd y Pwyllgor
yn cyfarfod yn gyhoeddus
ar sail ad hoc i wneud argymhellion ar weithdrefnau ac arferion cyffredinol y
Cynulliad wrth gynnal ei fusnes, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud
neu ddiwygio’r Rheolau
Sefydlog.
Roedd y
cyfarfodydd hyn yn ddarostyngedig i’r gweithdrefnau arferol ar gyfer
cyfarfodydd cyhoeddus ac roedd croeso i aelodau’r cyhoedd eistedd yn yr oriel
gyhoeddus i’w harsylwi. Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i drefnu i fynd i
weld cyfarfod o’r Pwyllgor yn yr adran Mynd
i Gyfarfod Pwyllgor.
Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Busnes.
Trawsgrifiadau a’r cofnodion
Ymgyngoriadau wedi’u cwblhau
Adroddiadau’r Pwyllgor Busnes
Amserlen y Cynulliad
Rhaid i'r
Pwyllgor Busnes gyhoeddi amserlen bob chwe mis sy'n:
- amlinellu amserlenni'r Cyfarfod Llawn;
- pennu'r amserau sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd
pwyllgorau eraill yn y Cynulliad;
- pennu'r amserau ar gyfer cyfarfodydd grwpiau
gwleidyddol;
- rhestru'r dyddiadau ar gyfer ateb cwestiynau llafar
yn y Cyfarfod Llawn
Amserlen y
Cynulliad.
Aelodaeth
Gellir gweld
rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd
Cynulliad isod: