Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Dafydd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar a Kirsty Williams. Nid oedd dirprwyon. |
||
(09.30 - 09.45) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion polisi yr Undeb Ewropeaidd sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol HSC(4)-13-11 papur
1 Gregg Jones, y Gwasanaeth Ymchwil (drwy
gyswllt fideo) Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y papur â Gregg Jones o’r Gwasanaeth Ymchwil. 2.2 Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch unrhyw ddeddfwriaeth arfaethedig, cymeradwyo cyffuriau ledled yr UE, a modelau gofal i’r henoed yng ngwledydd yr UE. 2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried materion polisi’r UE eto fel rhan o drafodaeth ehangach ar ei flaenraglen waith yn y dyfodol. |
|
(09.45 - 10.00) |
Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - Cynllun gwaith y Pwyllgor HSC(4)-13-11 papur 2 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei gynllun gwaith ar gyfer ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn. |
|
(10.00 - 11.00) |
Papur Gwyn ar Roi Organau - Sesiwn friffio ar y materion technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru HSC(4)-13-11 papur
3 Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol GIG
Cymru a’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Grant Duncan, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Feddygol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch y Papur Gwyn ar Roi Organau. 4.2 Cytunodd y swyddogion i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn, y gofynnodd y Pwyllgor amdani: · rhestr o sefydliadau yn y trydydd sector sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn; · manylion am gyfarfodydd cyhoeddus ar y Papur Gwyn a fydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol; · eglurhad ynghylch a yw’r trefniadau presennol ar gyfer rhoi organau a meinweoedd yn gymwys yng Nghymru a Lloegr yn unig, neu hefyd yn cynnwys yr Alban a Gogledd Iwerddon. 4.3 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn debyg ar ddiwedd y broses o ymgynghori ar y Papur Gwyn. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 a 24 Tachwedd HSC(4)-11-11 cofnodion HSC(4)-12-11 cofnodion Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 a 24 Tachwedd. 5.2 Nododd y Pwyllgor y papurau i’w nodi. |
||
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 7 ac 8 Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer eitemau 7 ac 8. |
|
(11.00 - 11.30) |
Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc - Adroddiad drafft Cofnodion: 7.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad drafft ar ei ymchwiliad i leihau’r risg o strôc. |
|
(11.30 - 11.45) |
Paratoi ar gyfer y sesiwn graffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cofnodion: 8.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y materion y byddai’n eu crybwyll wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y sesiwn graffu ar 25 Ionawr 2012. |
|
Trawsgrifiad |