Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alun Davidson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/01/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i’r cyfarfod. 1.2
Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant
gan ei fod yn Gadeirydd Grŵp Cynghori Ewropeaidd, Cadeirydd Pwyllgor
Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol. |
|
(14.00-14.05) |
Papurau i’w nodi |
|
Papur i'w nodi 1: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit at y Cadeirydd mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit - y goblygiadau i Gymru - 20 Rhagfyr 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1.1 Cafodd y
papur ei nodi. |
||
Papur i'w nodi 2: Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynghylch Bil yr UE (Cytundeb Ymadael) - 13 Ionawr 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.2.1 Cafodd y
papur ei nodi. |
||
Papur i'w nodi 3: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd ynghylch strategaeth ryngwladol y Llywodraeth – 14 Ionawr 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.3.1 Cafodd y
papur ei nodi. |
||
(14.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd
y cynnig. |
|
(14.05-15.30) |
Seminar ar fasnach ryngwladol Mark Dayan –
Ymddiriedolaeth Nuffield Michael Gasiorek
– Arsyllfa Polisi Masnach y DU Ludivine Petitin
– Prifysgol Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Atebodd y
panel gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(15.30-15.45) |
Trafod ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad - goblygiadau posibl i bwyllgorau'r Cynulliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Trafododd yr
Aelodau’r ohebiaeth a chytunwyd arni yn amodol ar welliannau. |