Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Deisebau newydd COVID-19 |
|
P-05-1067 Caniatáu i bob siop sy’n gwerthu eitemau dianghenraid barhau i fasnachu yn ystod y cyfnod cyfyngiadau 17 diwrnod Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb ffurfiol i'r ddeiseb
gan y Llywodraeth, a gofyn am farn bellach gan y deisebydd ar yr adeg honno,
cyn ystyried a oes unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd. |
|
P-05-1068 Caniatáu cyfarfodydd ymbellhau cymdeithasol mewn gerddi preifat i ddilyn y wyddoniaeth ac osgoi teimlo’n ynysig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y
deisebydd, cyn ystyried a yw'n gallu cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y
ddeiseb. |
|
P-05-1082 Gadewch i gorau ymarfer dan do os ydyn nhw'n cynhyrchu asesiad risg llawn i atal haint C-19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y
deisebydd, cyn ystyried a yw'n gallu cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y
ddeiseb. |
|
P-05-1101 Caniatáu i gefnogwyr fynychu digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack
Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae’n aelod o
fwrdd clwb pêl-droed yng Nghymru. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gadw golwg ar y sefyllfa, yn
sgil y newid yn y sefyllfa mewn perthynas â digwyddiadau chwaraeon ledled y DU,
cyn ystyried y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol. At hynny, cytunwyd pan fydd y
ddeiseb yn cael ei thrafod eto y bydd yn cael ei hystyried ochr yn ochr â'r
ddeiseb P-05-1027 Caniatáu clybiau pêl-droed domestig Cymru i chwarae gemau
cyfeillgar, a chaniatáu cefnogwyr i fynd i’r gemau. |
|
P-05-1102 Caniatáu o leiaf un rhiant neu warcheidwad i wylio gemau pêl-droed sydd wedi'u trefnu i blant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y
deisebydd, cyn ystyried a yw'n gallu cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y
ddeiseb. |
|
P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn am ddadl Llawn ar y cyd
ynghylch y ddeiseb hon a P-05-1119
Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau
COVID-19. |
|
P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i ofyn am ddadl Llawn ar y cyd ynghylch y ddeiseb hon a P-05-1117 Rhowch y
Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth. |
|
P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn: ·
gofyn am ymateb ysgrifenedig gan
Lywodraeth Cymru eto; ·
aros am ymateb y Llywodraeth i
adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar effaith Covid-19
ar iechyd meddwl; a ·
cheisio amser ar gyfer dadl yn y
Cyfarfod Llawn ynghylch y ddeiseb. |
|
P-05-1079 Dylid diogelu Gwarchodfa Natur Cynffig gan ddefnyddio pwerau prynu gorfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol
Cymru ac Ymddiriedolaeth Gorfforaeth Cynffig i geisio barn mewn ymateb i'r
ddeiseb, a gofyn am ragor o wybodaeth cyn ystyried a oes unrhyw gamau pellach y
gallai eu cymryd ynghylch y ddeiseb. |
|
P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i egluro
gwerth unrhyw gyllid canlyniadol y mae wedi'i gael o ganlyniad i wariant ar y
mater hwn gan Lywodraeth y DU, ac i ba ddiben y defnyddiwyd y cyllid hwn; ·
ysgrifennu at y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i rannu manylion y ddeiseb gyda nhw
yng nghyd-destun y gwaith y mae wedi bod yn ymwneud ag ef, mewn perthynas â
diogelwch tân mewn blociau preswyl uchel; ·
aros am farn y deisebydd ar yr
ymateb manwl a roddwyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a rhannu'r
safbwyntiau hynny â'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. |
|
P-05-1088 Dylid sbarduno is-etholiad ar gyfer Aelodau sy'n dymuno newid eu hymlyniad o ran plaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Neil
McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi newid ei
ymlyniad o ran plaid yn ystod tymor y Senedd hon. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac yn sgil yr ymateb a gafwyd, pa mor agos
yw etholiad nesaf y Senedd a'r ffaith y byddai’n amhosibl, o ganlyniad, i roi
newid o'r fath ar waith ar ffurf deddfwriaeth sylfaenol ar yr adeg hon,
cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1089 Dylai Cymru arwain ar ddod â chyflogau’r GIG nôl i fod yn unol â chostau chwyddiant dros y 10 mlynedd diwethaf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd ei gefnogaeth i'r ddeiseb, yn
ogystal â'r tebygolrwydd y bydd Corff Adolygu Cyflogau'r GIG yn adrodd ar ei
argymhellion ddechrau mis Mai. Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb gan y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'w ohebiaeth bellach ddiweddar ar
ddeiseb P-05-1052
Rhowch godiad cyflog i nyrsys yn unol â’r hyn a roddir i staff rheng flaen
eraill yn ystod pandemig COVID-19 ac ystyried y deisebau gyda'i gilydd yn y
dyfodol. |
|
P-05-1091 Dileu Bagloriaeth Cymru orfodol i fyfyrwyr sydd am fynd i'r Brifysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am safbwyntiau pellach
gan y deisebydd, cyn ystyried a all
gymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb. |
|
P-05-1093 Sefydlu Asiantaeth Gorfodi ym maes yr Amgylchedd a Bywyd Gwyllt yng Nghymru i ymdrin â throseddau amgylcheddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn sgil cefnogaeth y deisebydd i
gyhoeddiad arfaethedig y Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon at
ddibenion ymgynghori – a'r tebygolrwydd na fyddai'n gallu gwneud cynnydd
pellach ar y mater a godwyd gan y ddeiseb ar yr adeg hon – cytunodd i gau'r
ddeiseb a diolch i'r deisebydd. At hynny, cytunodd y Pwyllgor i rannu barn y
deisebydd gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. |
|
P-05-1096 Dileu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o’r elfen orfodol o Fil Cwricwlwm 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn sgil y gwaith craffu parhaus ar Fil Cwricwlwm
ac Asesu (Cymru) gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac yn y ddadl
Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn – yn ogystal â'r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o
bryd i'r Aelodau ddiwygio'r Bil – cytunodd y Pwyllgor i gadw golwg ar y
ddeiseb. |
|
P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig er mwyn: ·
rhannu'r sylwadau pellach a gafwyd
gan y deisebwyr; ·
ceisio diweddariad ar yr adolygiad
o'r Cod Ymarfer a roddwyd ar waith yn 2019, ac unrhyw waith ymchwil pellach
sy'n cael ei ystyried ar y mater hwn; a ·
cheisio eglurhad o ran pam nad yw'r
Gweinidog yn bwriadu cymryd camau pellach i wahardd yr arfer o gewyllu adar at
y diben hwn. |
|
P-05-1115 Atal fferm solar anferth fydd yn dinistrio dolydd hynafol ger y Fenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd ei bod yn debygol na fyddai llawer
o gamau ymarferol pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd, gan fod y broses
gynllunio ffurfiol – sy'n rheoli’r broses o ystyried ceisiadau am Ddatblygiadau
o Arwyddocâd Cenedlaethol – wedi ei rhoi ar waith. Cytunodd yr Aelodau i gadw
golwg ar y ddeiseb tan ddiwedd tymor y Senedd hon. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a ddaeth i law, ynghyd â’r wybodaeth lefel uchel
a ddarparwyd ynghylch presenoldeb asbestos mewn adeiladau ysgolion yng Nghymru.
Gwnaeth y Pwyllgor gydnabod nad yw hyn yn diwallu holl ofynion y deisebydd,
fodd bynnag, yn sgil yr ystyriaeth fanwl a roddwyd i'r ddeiseb hon ers ei
chyflwyno yn y lle cyntaf, cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau pellach
o ddefnydd y byddai’n gallu eu cymryd ar yr adeg hon. Cytunodd yr Aelodau i
gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd,
Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ofyn a yw wedi ymgymryd ag unrhyw waith
ynghylch gweithredu canllawiau NICE yn ystod y Senedd hon, neu a fyddai hwn yn
faes y byddai'n ystyried ei argymell i bwyllgor olynol yn y Chweched Senedd. Yn
dilyn hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a mynegodd ei siom nad yw cynllun o'r math
hwn yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. Cytunodd y Pwyllgor i
ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am
esboniad a gwybodaeth fanylach am yr opsiynau a ystyriwyd gan Lywodraeth Cymru,
mewn perthynas ag ymarferoldeb a chostau sefydlu cynllun i dalu costau
angladdau gweithwyr y GIG sy’n marw o COVID-19 neu gyda’r feirws. |
|
P-05-943 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau gwelliannau i'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog
yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ddiweddariad ar y gwaith gwella diogelwch
a gynlluniwyd ar gyfer y rhan hon o'r A487, a gwybodaeth am unrhyw fesurau
pellach sydd o dan ystyriaeth. |
|
P-05-993 Gwnewch y sector manwerthu’n gwbl hygyrch i bobl anabl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y materion a godwyd ac, yn sgil ymateb Llywodraeth Cymru i’r
argymhellion a bennwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau, yn dilyn ei ymchwiliad i anghydraddoldeb yn ystod pandemig Covid-19,
cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ofyn am ddiweddariad pellach
gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar unrhyw drafodaethau
ynghylch y materion hyn a gynhaliwyd gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a
Chymdeithas Milfeddygon Prydain. |
|
P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru (Cyfraith Lucy) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â’r deisebau P-05-915
Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn
bach yng Nghymru a P-05-939
Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn
newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y
rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi. Trafododd y
Pwyllgor y datganiadau a gyhoeddwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion
Gwledig a chytunodd i ofyn am eglurhad ynghylch pryd y byddai deddfwriaeth o'r
fath i wahardd gwerthu cŵn
bach a chathod bach yn cael ei chyflwyno. DS. Yn dilyn y
cyfarfod cyhoeddodd y Gweinidog Rheoliadau
Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Cymru)
2021 ar 27 Ionawr 2021. |
|
P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â’r deisebau P-05-856
Rhaid gwahardd gwerthu cŵn
bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng
Nghymru (Cyfraith Lucy) a P-05-939
Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn
newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y
rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi. Trafododd y
Pwyllgor y datganiadau a gyhoeddwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion
Gwledig a chytunodd i ofyn am eglurhad ynghylch pryd y byddai deddfwriaeth o'r
fath i wahardd gwerthu cŵn
bach a chathod bach yn cael ei chyflwyno. DS. Yn dilyn y
cyfarfod cyhoeddodd y Gweinidog Rheoliadau
Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Cymru)
2021 ar 27 Ionawr 2021. |
|
P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â’r deisebau P-05-856
Rhaid gwahardd gwerthu cŵn
bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng
Nghymru a P-05-915
Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn
bach yng Nghymru. Trafododd y
Pwyllgor y datganiadau a gyhoeddwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion
Gwledig a chytunodd i ofyn am eglurhad ynghylch pryd y byddai deddfwriaeth o'r
fath i wahardd gwerthu cŵn
bach a chathod bach yn cael ei chyflwyno. DS. Yn dilyn y
cyfarfod cyhoeddodd y Gweinidog Rheoliadau
Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Cymru)
2021 ar 27 Ionawr 2021. |
|
P-05-996 Galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â symud, difrodi na dinistrio unrhyw symbolau hanesyddol yng Nghymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd – yn sgil gwaith sy'n cael ei
gynnal ar y mater, gan gynnwys ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu, cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: EItem 5. Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Paratoadau ar gyfer diwedd y 5ed Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor nifer o faterion yn ymwneud â chwblhau ei waith cyn diwedd y 5ed Senedd
a chytunodd i gynghori’r Llywydd y dylid cau'r broses ddeisebau yn ystod y
diddymiad, neu ar unrhyw adeg pan nad yw busnes rheolaidd y Senedd yn cael ei
gynnal. |