Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/02/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-862 - Mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i: ·
ddarparu'r sylwadau pellach a gafwyd gan y deisebydd; ·
gofyn iddi ddarparu asesiad o ddigonolrwydd dyletswyddau
cyfreithiol cyfredol mewn perthynas ag atal a mynd i'r afael â bwlio mewn
ysgolion; a ·
gofyn am linell amser ar gyfer pryd y bydd adroddiad ar
ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ganllawiau gwrth-fwlio ar gael. |
|
P-05-863 Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
aros am
farn y deisebwyr ar yr ymateb a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ar y ddeiseb; ac
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i aros am ymateb gan y deisebydd i'r wybodaeth ddiweddaraf a
ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog cyn ystyried camau pellach. |
|
P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng
Nghymru a chytunodd i barhau i gadw golwg ar y sefyllfa nes bod Llywodraeth
Cymru yn ymateb yn ffurfiol i'r adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Dr
Jacinta Tan. |
|
P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder
Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc a chytunodd i barhau i gadw golwg ar y
sefyllfa nes bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i'r adolygiad
annibynnol a gynhaliwyd gan Dr Jacinta Tan. |
|
P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chytunodd i roi
cyfle i’r bobl sydd wedi cysylltu â'r Pwyllgor ynglŷn â’r mater hwn yn
flaenorol roi eu barn, ac i ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda i
ofyn am eu barn ar y cynlluniau a amlinellwyd gan y Bwrdd Iechyd a dyfodol
gwasanaethau iechyd i Sir Benfro. |
|
P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i aros am ddiweddariad pellach gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol mewn perthynas ag adolygiad o fuddiannau'r cynllun a’r fframwaith
taliadau disgresiwn cyn ystyried y ddeiseb ymhellach, ac i ysgrifennu eto yn
ystod y Pasg os na dderbynnir hwn. |
|
P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol a'r deisebydd, a chytunodd i ystyried y ddeiseb eto
yn dilyn dadl y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer 6 Mawrth 2019. |
|
P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i
ofyn: ·
a yw hi o'r farn bod y gwahaniaeth rhwng trwyddedu a'r
gyfundrefn reoleiddiol yng Nghymru a Lloegr yn peri risg i les anifeiliaid yng
Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â'r fasnach anifeiliaid anwes egsotig; ac ·
a yw'n bwriadu ystyried rhinweddau mabwysiadu rhai neu
bob un o'r gwahanol newidiadau polisi a wnaed yn Lloegr gan y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n
Cynnwys Anifeiliaid) (Lloegr) 2018. |
|
P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i: ·
ofyn am
farn y grŵp ymgyrchu ar y datblygiadau diweddaraf cyn ystyried a
all gymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb; ac ·
ysgrifennu
at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn iddynt ddarparu amserlenni dangosol ar gyfer
cynnal yr ailasesiad. |
|
P-05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail mai ychydig o gamau pellach y gellid eu
cymryd ar hyn o bryd, yn wyneb y ffaith bod y Cynulliad wedi cytuno ar Gyllideb
Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20 ar 15 Ionawr 2019 a bod y Pwyllgor
Cyllid a phwyllgorau pwnc eraill wedi craffu arni. |
|
P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar Dogfennau ategol: Cofnodion: Yn sgil
datblygiadau diweddar sy'n dangos nad yw'r cynnig i adeiladu carchar newydd ym
Maglan yn mynd rhagddo, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a llongyfarch y
deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 5 Item
5 Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
|
Trafod yr adroddiadau drafft |
|
Adroddiad drafft - P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gyhoeddi adroddiad interim o'r dystiolaeth a gafwyd cyn gynted â
phosibl ac i wahodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi
tystiolaeth i'r Pwyllgor cyn gynted â phosibl. |
|
Adroddiad drafft - P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gyhoeddi'r adroddiad drafft. |
|
Sesiwn dystiolaeth - P-05-846 Achub Ysbyty Tywysog Philip Llanelli Cyng John Prosser (SOSPPAN) Cyng Louvain Roberts (SOSPPAN) Cyng Deryk Cundy (SOSPPAN) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Deryk Cundy, John Prosser a Louvain Roberts o SOSPPAN. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Item
8 |
|
Trafod y Sesiwn Dystiolaeth Flaenorol Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd
Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda i ofyn am ymateb i rai
o'r materion a godwyd. |