Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 401KB) Gweld
fel HTML (147KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Mynychodd David Melding yn lle
Janet Finch-Saunders. |
||
Deisebau newydd |
||
P-05-738 Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd David Melding y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Mae wedi cefnogi'r ymgyrch ar gyfer ffordd osgoi Dinas Powys yn flaenorol. Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn a yw Llywodraeth
Cymru wedi helpu i ariannu'r astudiaeth gyfredol i mewn i rwydwaith
trafnidiaeth Dinas Powys ac, os felly, a fyddai mewn sefyllfa i roi'r newyddion
diweddaraf i'r Pwyllgor unwaith y bydd hyn wedi dod i ben. |
||
-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gysylltu â'r
deisebydd er mwyn cael eglurhad am ei deiseb, yng ngoleuni'r wybodaeth a dderbyniwyd
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-05-739 Achub Gwasanaethau TWF Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried boddhad y
deisebwyr gydag ehangu'r rhaglen Twf o fis Ebrill 2017, cytunwyd i gau'r
ddeiseb a diolch i'r deisebwyr am eu cyfraniad. |
||
P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid Dogfennau ategol: Cofnodion: Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.3. |
||
P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i anfon
sylwadau mwyaf diweddar y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Amgylchedd a Materion Gwledig a derbyn y cynnig o gael y newyddion diweddaraf
gan Lywodraeth Cymru pan fo hynny'n briodol |
||
P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y
wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebydd yn dilyn ei gyfarfod a drefnwyd gydag
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. |
||
P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ddychwelyd
at y ddeiseb yn y cyfarfod nesaf fel y gellir ei hystyried ochr yn ochr â
deiseb arall ar geisiadau cloddio glo brig. |
||
P-05-717 Sefydlu Hawliau Mynediad Cyhoeddus Statudol i Dir a Dŵr Mewndirol at Ddibenion Hamdden a Dibenion Eraill. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd
ar y camau a ganlyn: ·
anfon sylwadau'r deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a
Materion Gwledig; ac ·
aros am fanylion pellach ar y cynigion ar gyfer diwygio sy'n cael eu
datblygu gan Lywodraeth Cymru. |
||
P-05-747 Cynnal Profion TB ar Wartheg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd
ar y camau a ganlyn:
|
||
P-05-712 Byddai Adran Ewrop o fewn Llywodraeth Cymru yn Sicrhau Llais Clir, Strategol ac Atebol i Gymru yn y Trafodaethau Parhaus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i anfon at y
deisebwr gopi o adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
ar yr Oblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac aros am ei farn
am y wybodaeth a dderbyniwyd. |
||
P-05-731 Gwerthu Tir a Lonydd Mynediad yn Abercwmboi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a daeth i'r casgliad nad
oes llawer rhagor y gall y Pwyllgor ei wneud tra bod y trafodaethau rhwng
Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol ynglŷn â'r defnydd o'r tir yn parhau.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r
Seilwaith i ofyn iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor unwaith y bydd y
trafodaethau hyn wedi dod i ben. |
||
P-05-740 Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am
farn y deisebwr am yr ohebiaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gyllid a Llywodraeth Leol cyn cytuno ar y cam nesaf mewn perthynas â'r ddeiseb. |
||
-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ymateb gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb a
diolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebu. |
||
P-04-601 Gwaharddiad Arfaethedig ar Ddefnyddio e-sigaréts Mewn Mannau Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ymateb gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb a
diolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebu. |
||
-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ymateb gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb a
diolch i'r deisebwyr am ymgysylltu â'r broses ddeisebu. |
||
P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio
ers i'r deisebydd gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor. |
||
P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio
ers i'r deisebydd gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor. |
||
P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau I Wasanaethau Iechyd Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio
ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor. |
||
P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio
ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor. |
||
P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gymryd camau pellach i geisio ail-sefydlu cyswllt
gyda'r deisebwr drwy'r Grŵp Trawsbleidiol ar
Anhwylderau Bwyta. |
||
P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gymryd camau pellach i geisio ail-sefydlu cyswllt
gyda'r deisebwr drwy'r Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion yn ymwneud â Phobl
Fyddar. |
||
-04-442 Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy’n agos i’w cartrefi Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb gan y deisebwr ac ystyried y ddeiseb
eto yn y cyfarfod ar 9 Mai. |
||
P-04-559 Ymwybyddiaeth mewn Ysgolion Uwchradd o Hunan-niweidio Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb gan y deisebwr ac ystyried y ddeiseb
eto yn y cyfarfod ar 9 Mai. |
||
P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb gan y deisebwr ac ystyried y ddeiseb
eto yn y cyfarfod ar 9 Mai. |
||
P-04-524 Rheolaeth Gynllunio a’r Gymraeg Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb gan y deisebwr ac ystyried y ddeiseb
eto yn y cyfarfod ar 9 Mai. |
||
(9.40 - 10.30) |
Sesiwn dystiolaeth - P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt ·
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – John
Forsey, Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu, Cyngor Sir Powys ·
Cymdeithas Llogi Car Preifat Cofrestredig –
Steve Wright MBE, Cadeirydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y
Gymdeithas Tacsis Genedlaethol i geisio tystiolaeth ysgrifenedig ar y ddeiseb. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
||
Trafod tystiolaeth lafar o dan eitem 4 ar yr agenda. Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth. |