Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 317KB) Gweld
fel HTML (118KB) |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd Janet
Finch-Saunders wedi ymddiheuro am ei habsenoldeb. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Cyflwynodd Fil arfaethedig i falot yr Aelodau ar yr un
pwnc â’r ddeiseb. Datganodd Gareth Bennett y budd perthnasol a ganlyn o dan
Reol Sefydlog 17.24A: Cyflwynodd Fil arfaethedig i falot yr Aelodau ar yr un
pwnc â’r ddeiseb. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y canlynol:
·
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn am ragor o wybodaeth
am yr amserlen ar gyfer penderfynu a oes angen deddfu ar y mater. |
|
P-05-735 Gwneud y Cyfnod Sylfaen yn fwy effeithiol ar gyfer ein plant, darparu mwy o athrawon a dileu y TASau blwyddyn 2. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau
a ganlyn:
|
|
P-05-736 Darparu gwasanaethau iechyd meddwl mwy hygyrch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
elusennau sy'n cynorthwyo pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i ofyn am eu
barn am y materion a godwyd yn y ddeiseb a'r wybodaeth a gafwyd gan
Ysgrifennydd y Cabinet. |
|
P-05-737 Achub ein bws Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau
a ganlyn:
|
|
P-05-739 Achub Gwasanaethau TWF Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau
a ganlyn:
am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu elfen genedlaethol Twf; ac ·
aros am farn y deisebwyr. |
|
P-05-740 Deiseb i Warchod ein Stryd Fawr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ofyn am
atebion i’r cwestiynau penodol a godwyd gan y deisebydd. |
|
P-05-741 Mae angen cyfyngiadau llymach ar Gyfoeth Naturiol Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn iddynt ymateb i’r pwyntiau a godwyd yn y
ddeiseb ac esbonio sut y maent yn ystyried buddiannau sy’n cystadlu yn erbyn ei
gilydd, a’r defnydd amaethyddol o dir, wrth fynd ati i ddynodi Safleoedd o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:
|
|
P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu
at:
·
Chyngor Sir Powys i holi am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â chynnal a
chadw cofeb Tywysog Llywelyn a bwrw ymlaen â Chynllun Gweithredu Lloyd Brown
2013. |
|
P-05-709 Cylchffordd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i gau'r ddeiseb, ar gais y
deisebydd, gan ddiolch iddo am ei gyfraniad at y broses ddeisebau. |
|
P-05-714 Cynnwys gorsaf ym Mynachdy a Thal-y-bont fel rhan o unrhyw gynnig ar gyfer Metro Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r Pwyllgor unwaith y bydd y gwaith blaenoriaethu wedi’i gwblhau
yng nghyswllt y rhestr o orsafoedd newydd o dan y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth
Cenedlaethol. |
|
P-05-731 Gwerthu tir a lonydd mynediad yn Abercwmboi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ofyn i
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith:
|
|
P-04-519 Diddymu taliadau comisiwn wrth werthu cartrefi mewn parciau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau
a Phlant a’r deisebydd a chytunodd i:
|
|
P-04-597 Diogelu dyfodol y Ddraig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod cryn amser wedi mynd heibio ers
i’r deisebydd gysylltu ddiwethaf a'r ffaith bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
yn cymryd camau i sefydlu senedd ieuenctid Cymru ar hyn o bryd. |
|
P-04-662 Mae’n anodd amgyffred sut y byddai bywyd wedi bod heb fy Ngweithiwr Cymorth Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb o ystyried bod y gyllideb ar gyfer y
Rhaglen Cefnogi Pobl wedi’i diogelu ac na lwyddwyd i gysylltu â'r deisebydd. |
|
P-04-490 Meddyginiaeth gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod cryn amser wedi mynd heibio ers
i’r deisebydd gysylltu ddiwethaf. |
|
P-04-564 Adfer gwlâu i gleifion, gwasanaeth mân anafiadau ac uned pelydr-X yn Ysbyty Coffa Ffestiniog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymunedol i ofyn am ei farn am yr
ohebiaeth. |
|
P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Diabetes UK Cymru, y Pwyllgor Gofal
Cymdeithasol a Chwaraeon a’r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:
|
|
P-05-713 The Wildlife Warriors Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o
ystyried y cytundeb cyffredinol rhwng Cadwch Gymru'n
Daclus a Llywodraeth Cymru ynghylch rôl Wildlife Warriors
cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb gan ddiolch i’r deisebwyr am gyfrannu at y
broses ddeisebau. |
|
P-05-717 Sefydlu hawliau mynediad cyhoeddus statudol i dir a dŵr mewndirol at ddibenion hamdden a dibenion eraill Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn dilyn ei
datganiad ar 13 Chwefror, i ofyn iddi egluro a fydd yr ymgynghoriad arfaethedig
yn cynnwys yr opsiwn i sefydlu hawl mynediad cyhoeddus statudol i dir a
dŵr mewndirol, ac i holi am yr amserlen gysylltiedig. |
|
P-04-499 Rhoi Hwb i Gwricwlwm yr Iaith Gymraeg Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod cryn amser wedi mynd heibio ers
i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf. |
|
P-05-724 Hawliau i Ofal Iechyd Sylfaenol yn y Gymraeg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg a chytunodd i
aros am ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad a'r rheoliadau drafft y bydd
yn eu cyflwyno, gan ystyried y ddeiseb eto bryd hynny. |
|
P-05-726 Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gyllid a Llywodraeth Leol a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd cyn
penderfynu a ddylid cymryd camau pellach. |
|
P-05-727 Arian i dalu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i oofyn am ei hymateb i
bryderon a chwestiynau’r deisebwyr, ac i ofyn a yw'n fwriad gan Lywodraeth
Cymru i barhau i roi cymhorthdal i helpu i dalu ffioedd cofrestru
staff ysgol ar gyflog isel. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Blaenraglen waith |
|
P-05-710 Sicrhau y gall pobl anabl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pryd bynnag y bo’i hangen arnynt – trafodaeth yn ystod y sesiwn dystiolaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 31 Ionawr gyda
Llysgenhadon Whizz-Kidz a chytunodd i gymryd tystiolaeth lafar ychwanegol gan y
canlynol:
|